Carolau ac addurniadau o ysgol maelgwyn yn dod â goleuni’r ŵyl i gymdeithas tai

Mae disgyblion ifanc o Ysgol Maelgwyn yng Nghyffordd Llandudno wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth Nadolig ysgol gyfan i ddylunio a chynhyrchu’r addurn Nadolig gorau.

Mi wnaeth dros 100 o ddisgyblion gymryd rhan yn yr her Addurn Nadolig, a osodwyd gan Tai Gogledd Cymru, gan gynhyrchu casgliad enfawr o addurniadau lliwgar ar gyfer y gystadleuaeth. Mae swyddfeydd Tai Gogledd Cymru bron gyferbyn ag Ysgol Maelgwn ar Broad Street, ac roedd yr her ysgol yn gyfle gwych i’r ddau ddod at ei gilydd yng nghyfnod y Nadolig.

Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, Paul Diggory, fu’n beirniadu’r addurniadau ac roedd wrth ei fodd gyda’r canlyniadau. Dywedodd:

“Am gasgliad gwych a chreadigol o addurniadau! Rwyf wedi fy mhlesio’n arw gyda’r syniadau a gyflwynwyd, ac roedd dewis pedwar buddugol yn waith anodd iawn.”

Cafodd yr enillwyr eu dewis o blith pedwar grŵp oedran gwahanol a’u cyflwyno gyda thocyn anrheg gan Paul.

Fel rhan o ddathliadau ehangach y Nadolig, ymwelodd côr yr ysgol â phrif swyddfa Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, gan ganu carolau i gynulleidfa o staff, rhieni ac athrawon. Cafodd goleuadau’r goeden Nadolig eu troi ymlaen yn swyddogol gan gyn-aelod o’r bwrdd, sef Alice Robinson, ac er mawr foddhad i’r plant cafwyd ymweliad annisgwyl gan amryw o gymeriadau Nadolig, gan gynnwys Siôn Corn a Rwdolff.

Ychwanegodd Paul:

“Mae hyn wedi bod yn ddigwyddiad Nadolig hyfryd. Mae’r disgyblion wedi gwneud ymdrech fawr gyda’u gwaith creadigol, ac fe wnaed y profiad yn un gwell fyth gan eu hymweliad yma er mwyn helpu i droi ein goleuadau ymlaen. Roedd cael cymaint o bobl ifanc yn ein gardd flaen yn canu’n swynol yn brofiad bythgofiadwy i’n holl staff a hoffwn ddiolch i bawb a helpodd drefnu’r digwyddiad gwych yma.”