Cartrefi newydd i bobl leol yn Wrecsam

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu 12 eiddo newydd yn Wrecsam, sy’n arwydd o dwf pellach ac ymroddiad gan y gymdeithas dai i adeiladu’n gynaliadwy.

Gan weithio’n agos â Chyngor Sir Wrecsam, bydd y cynllun newydd yn cael ei adeiladu yn ardal Whitegate yn y dref ar safle hen faes parcio. Ar hyn o bryd, y cynllun yw adeiladu cartrefi 2 ystafell wely er mwyn cyflenwi anghenion lleol. Bydd y tai hyn yn cael eu hadeiladu i safon Cod 3+ ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy, sef safon bresennol y Gymdeithas ar gyfer tai newydd.

Mae disgwyl i’r gwaith gychwyn ar y safle yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, a bydd tenantiaid yn cael eu dewis trwy gyfrwng rhestr aros y Cyngor ar gyfer tai.

Mae Tai Gogledd Cymru yn awr yn chwilio am bensaer ar gyfer y datblygiad ac yna byddant yn llunio cynlluniau manwl ar gyfer y safle. Bydd digwyddiad lleol yn cael ei gynnal hefyd yn Whitegate cyn i’r cynllun gychwyn ar y safle, fydd yn rhoi cyfle i breswylwyr a’r rhai sydd â diddordeb mewn ymgeisio i ddod i wybod mwy am y datblygiad newydd.

Y cynllun hwn fydd y cyntaf i Tai Gogledd Cymru ymwneud ag ef yn Wrecsam ac mae’n rhan o strategaeth ehangach fydd yn creu cartrefi newydd mewn ardaloedd allweddol ac yn taclo problem ehangach prinder tai.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae cynllun Wrecsam yn cynrychioli cyfle arbennig i weithio o fewn awdurdod lleol newydd a byw yn ôl ein henw ‘Tai Gogledd Cymru’!”

“Bydd y datblygiad hwn nid yn unig yn helpu i daclo’r diffyg tai ar gyfer pobl leol o fewn Wrecsam ond hefyd yn cefnogi tenantiaid y dyfodol gan leihau eu biliau egni trwy adeiladu yn ôl cynllun cynaliadwy a rhad ar ynni.”