Cartrefi newydd yn cynnig dyfodol newydd i bobl leol Y Rhyl

Mae chwech o drigolion lleol yn elwa o gartrefi newydd sydd wedi cael eu hailddatblygu i’w rhentu diolch i bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl.

Mae’r eiddo ar John Street yng Ngorllewin y Rhyl, a fu cyn hyn yn cartrefu tua 12 o fflatiau un ystafell, wedi cael eu trawsnewid i 6 o fflatiau ansawdd uchel, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ac sydd hefyd yn fflatiau fforddiadwy.

Mae’r fflatiau yn agos at fan gwyrdd cymunedol newydd Gerddi Heulwen, ac wedi’u lleoli yng nghanol ardal adfywio strategol Llywodraeth Cymru a’r eiddo yma cyntaf i’w ddwyn yn ôl i ddefnydd yn dilyn rhaglen gwaith adfywio.

Mae Maria Dawson un o’r tenantiaid newydd wrth ei bodd:

“Rydw i mor hapus oherwydd byddaf yn cael cymaint o fudd o’r fflat hardd yma. Rwy’n dioddef o arthritis difrifol ac roeddwn yn byw mewn fflat ar y trydydd llawr cyn hyn, felly mae pethau’n bendant yn mynd i fod yn llawer gwell ac yn haws i mi rŵan. Mae gen i fynediad hefyd i ardal gardd sydd yn mynd i fod yn hyfryd pan fyddaf yn sâl ac eisiau mymryn o awyr iach. Rwyf mor ddiolchgar.”

Dywedodd Fiona Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tir Gorllewin y Rhyl:

“Rydym yn hynod falch o allu trosglwyddo goriadau’r eiddo yma i bobl leol. Mae safon y gwaith a wnaed gan Carroll Builders & Contractors yn ardderchog ac mae’r tenantiaid newydd yn hapus iawn gyda’u cartrefi newydd. “

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl a Tai Gogledd Cymru wedi bod yn cydweithio ers dechrau 2012 i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ac i safon dda, er mwyn eu rhentu i bobl leol am bris fforddiadwy. Dyma’r eiddo diweddaraf a ddatblygwyd ac rydym yn falch dros ben gyda sut y mae pethau wedi mynd ar y safle. Rydym yn gobeithio y bydd y tenantiaid newydd ymgartrefu a mwynhau byw yn eu cartrefi newydd “.

Mae’r eiddo yma wedi ei leoli gyferbyn â Datblygiad Tai Afallon ar Ffordd yr Abaty, datblygiad cyntaf Menter Tai Cydweithredol Gorllewin y Rhyl, sy’n bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Tir a Thai Gogledd Cymru, gan adeiladu ar ddyheadau’r gymuned.