Clwb Pêldroed Bwrdeistref Conwy ar y sgrin fawr

Mae criw o denantiaid Tai Gogledd Cymru ar fin dod â Chlwb Pêldroed Bwrdeistref Conwy i’r sgrîn fawr fel rhan o broject cynhyrfus newydd.

Mae’r grŵp o denantiaid Tai Gogledd Cymru hanner ffordd drwy brosiect sy’n cael ei hwyluso gan TAPE – Cerddoriaeth a Ffilm Cymunedol. Mae’r tenantiaid wedi bod ynglŷn â phob cam o’r broses gynhyrchu o’r cynllunio gwreiddiol a chreu bwrdd stori, i’r ffilmio, cyfweld, sain a goleuo. Wrth i’r prosiect ddatblygu yn yr wythnosau sydd i ddod bydd y criw hefyd yn ymwneud â’r camau golygu a chynhyrchu.

Gan fod cyswllt eisoes rhwng Tai Gogledd Cymru â Chlwb Pêl-droed Conwy, roedd y ddau gorff yn awyddus i gydweithio er lles y gymuned leol. Bydd y ffilm yn dilyn hanes y Clwb o’i ddechreuad yn 1977, a’i hynt oddi ar hynny hyd heddiw gan gynnwys datblygiad diweddar adeilad newydd i’r clwb.

Dywedodd Iwan Evans, o Tai Gogledd Cymru:

“Mae hwn yn brosiect gwych sy’n ennill momentwm yn wythnosol wrth i’r rhai sy’n cymryd rhan gael eu hysbrydoli ymhellach gan ymroi a bwrw iddi i’r prosiect. Mae’r criw wedi cael perchnogaeth go iawn ar y prosiect ac maent wrthi fel lladd nadroedd ar bob cam – rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld y gwaith gorffenedig.”