Codi £370 tuag at elusen Macmillan

Yn ddiweddar, cynhaliwyd Bore Coffi Macmillan gan breswylwyr a staff cynllun tai gwarchod Tai Gogledd Cymru yn Taverners Court, Llandudno a llwyddwyd i godi £370 diolch i haelioni’r preswylwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar ddechrau mis Hydref ac yn ogystal â’r holl gacennau a’r dantiethion penderfynwyd i roi thema’r 1960au i’r digwyddiad. Mi aeth pawb i ysbryd y diwrnod – gan ddod draw mewn gwisg ffansi, yn ogystal â chymryd rhan mewn cwis a dawnsio i rai o glasuron pop y 1960au. Ar ben hynny mi wnaeth raffl, arwerthiant bric a brac a gwerthu cacennau cartref gyfrannu at y cyfanswm a godwyd.

Da iawn pawb!