Cyd weithio yn creu Strydoedd Mwy Diogel

Mae Tai Gogledd Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru fel rhan o gynllun llywodraeth Strydoedd Mwy Diogel.

Wedi’i ariannu gan Heddlu Gogledd Cymru, mae Strydoedd Mwy Diogel yn darparu mesurau diogelwch ychwanegol ar gyfer eu cartrefi i ardaloedd y nodwyd eu bod mewn angen. Mae mesurau yn cynnwys goleuadau PIR, larymau, cloeon giatiau, cyfyngwyr blychau llythyrau a larymau ffenestri.

Ymwelodd y Swyddog Cymdogaeth Mandy Richards â rhai o’r cartrefi cymwys yng Ngorllewin y Rhyl yng Ngorffennaf i drafod diogelwch cartref a danfon eitemau yr oedd preswylwyr yn teimlo eu bod eu hangen, yn y gobaith o leihau eu risg o ddioddef troseddau. Roedd y preswylwyr yn ddiolchgar o dderbyn eu mesurau diogelwch am ddim.