Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau – Swydd Wag

I fod ein Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau nesaf byddwch yn gyfrifydd cymwys wedi cael profiad eang o heriau cyllidol a chyda ddiddordeb mewn meysydd arbenigol fel rheoli trysorlys. Bydd eich meddwl strategol yn cyd-fynd â’ch ffordd bragmataidd o weithio, yn eich galluogi i weithio yn effeithiol gyflym ac i gyflawni yn y rôl. Bydd eich capasiti personol i gael y gorau allan o bortffolio cymysg, sy’n cynnwys Cyllid, AD, TGCh, rheoli cytundebau, ac elfennau o lywodraethiant yn sicrhau eich bod yn sefyll allan fel ymgeisydd sydd am ddringo. Bydd eich ymrwymiad i dwf proffesiynol yn fodel rôl i’r rhai y byddwch yn eu harwain ac yn sicrhau bod diwylliant o welliant parhaus yn norm.

P’un ai os yw hon yn swydd Cyfarwyddwr gyntaf i chi, neu os ydych wedi eich profi eisoes ar y lefel
hon – mae eich uchelgais i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a pherfformiad uchel yn fwy pwysig. Byddwch yn deall gwerth arwain gyda deallusrwydd emosiynol ac yn cael eich denu at y rôl hon oherwydd ein gwerthoedd ni, ein tîm ymroddgar a’n pwrpas cymdeithasol sydd mor bwysig i bob dim a wnawn.

Os ydych yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu mwy, cewch fynediad at fanylion llawn y rôl a’n proffil ni fel sefydliad trwy’r pecyn ymgeisio yn http://www.campbelltickell.com/jobs. Am sgwrs anffurfiol gyda’n hymgynghorwyr recriwtio, Campbell Tickell, cysylltwch gyda’u hymgynghorydd arweiniol Mark Glinwood ar 07944-411484.

Clicio yma am yr hysbyseb swydd

Dyddiad Cau: 10 Medi 2018 12yp
Dyddiad Cyfweliad: 18 Medi 2018
Dyddiad Ail Cyfweliad: 28 Awst 2018
Cyflog: £85,000 y flwyddyn
Lleoliad: Plas Blodwel, Cyfordd Llandudno
Math: Cyllid ac Adnoddau, Parhaol