Cyhoeddi Cadeirydd newydd

Penodwyd Catherine Dixson gan y Bwrdd Grŵp fel Cadeirydd newydd Bwrdd Grŵp Tai Gogledd Cymru yng nghyfarfod Ionawr. Roedd hyn yn dilyn proses gyfweld egnïol a oedd yn cynnwys cael ei chyfweld gan banel o denantiaid.

Catherine yw Prif Weithredwr  Cymdeithas Tai Muir Group a leolwyd yng Nghaer.

Yn flaenorol, bu Catherine yn gweithio yn GreenSquare fel Cyfarwyddwr Gweithredol (Datblygu Sefydliadol a Gwasanaethau Corfforaethol) yn Wiltshire a chyn hynny fel Cyfarwyddwr Cymorth Busnes gyda Synergy Housing yn Dorset.

Mae gan Catherine flynyddoedd lawer o brofiad yn y maes tai a gweithio i awdurdod lleol ym myd addysg, gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth tân ac achub.

Mae Catherine yn Gadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Sant Dunawd ym Mangor-is-y-coed.

Mae gan Catherine Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) ac mae’n Ysgrifennydd a Gweinyddwr Siartredig (ACIS).

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Catherine:

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd Tai Gogledd Cymru. Mae’n amser cyffrous i ymuno â’r sefydliad wrth iddo archwilio ei strategaeth at y dyfodol, ei gyfleoedd i dyfu a datblygu. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda phawb a gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddyfodol Tai Gogledd Cymru. ”