Cylchlythyr tenantiaid newydd ar gael nawr

Mae rhifyn Haf Clwb Seren, cylchlythyr tenantiaid Tai Gogledd Cymru, ar gael i’w ddarllen ar-lein nawr!

Gallwch ddarllen y cylchlythyr yma. Cymysg o newyddion a chyngor, mae ein cylchlythyr tenantiaid yn tynnu sylw at bethau sydd yn digwydd yn eich cymuned.

Yn y rhifyn hwn…

  • Ffeindiwch allan pwy sydd wedi ennill ein cystadleuaeth garddio
  • Dysgwch mwy am ddiogelwch tân yn eich cartref
  • Gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol, y system budd-daliadau newydd
  • Gweld pa wobrau mae TGC wedi ennill ers y rhifyn diwethaf

Beth yw eich barn am y cylchlythyr? Rhowch wybod i ni gan gysylltu:

E-bost: [email protected]

Post: Sian Parry, Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Llandudno Junction. Conwy. LL31 9HL