Cymdeithas Tai yn ariannu pedwar o deithiau Ambiwlans Awyr Cymru

Mae Tai Gogledd Cymru wedi codi’r swm gwych o £6,014.38 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru; gan ddyblu’r targed a osodwyd a digon i ariannu 4 o deithiau awyr yr elusen.

Roedd hi’n hawdd i ni ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel elusen, oherwydd bod gan lawer o staff eu rheswm eu hunain i ddiolch i’r elusen.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Mae’r elusen yn agos iawn at lawer o’n calonnau, mae gan sawl aelod o’r staff ffrindiau neu deulu sydd wedi cael cymorth gan y gwasanaeth.”

“Mae’r ymateb a gawsom i Ambiwlans Awyr Cymru wedi bod yn wych gan bawb, does dim amheuaeth ei bod yn elusen boblogaidd ac uchel ei pharch.”

Dywedodd cydlynydd cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru Medwyn Hughes:

“Mae cefnogaeth ac ymrwymiad pawb yn Tai Gogledd Cymru wedi ein rhyfeddu. Maent wedi mynd ati’n ddiflino i godi arian dros yr achos ac wedi chwalu eu targed, gan gynnal llu o ddigwyddiadau creadigol a heriol.”

“Mae’r elusen yn dibynnu’n llwyr ar roddion i godi’r £6 miliwn i gadw’r ambiwlansys awyr i hedfan. Y llynedd hedfanodd yr ambiwlans awyr 475 taith ar draws Gogledd Cymru, a gallwn ond wneud y teithiau yma drwy gymorth fel hyn. Bydd rhodd Tai Gogledd Cymru yn mynd yn uniongyrchol tuag at helpu i achub bywydau yn yr awyr.”

Codwyd yr arian trwy wneud amryw o bethau, o daith gerdded Walkathon 26.2m, taith feiciau 45 milltir, raffl fawreddog yn ogystal â phethau fel brecwast, te prynhawn a dydd Gwener anffurfiol trwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rwy’n hynod falch o’n holl staff; maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i’r godi arian yma, a’r cyfan yn eu hamser eu hunain.”

“Mae codi arian wedi helpu dod â’r staff at ei gilydd hefyd. Mae perthynas wedi datblygu, ffrindiau newydd wedi’u gwneud. Ac mae’n helpu gyda sut rydym yn cydweithio yn ein gwaith bob dydd hefyd.”

Sefydlwyd panel elusen eleni, sef tîm ymroddedig i hwyluso codi arian ar draws y sefydliad. Bydd enw’r elusen ar gyfer 2016-17 yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.