Cymdeithas tai yn helpu banc bwyd y Nadolig hwn

Roedd staff Tai Gogledd Cymru eisiau rhoi rhywbeth yn ôl y Nadolig hwn ac felly sefydlwyd ymgyrch ar draws y sefydliad i bobl gyfrannu rhoddion ar gyfer Banc Bwyd.

Yn ystod yr wythnos cyn eu cinio Nadolig, bu gweithwyr y gymdeithas dai yn cyfrannu rhoddion yn eu swyddfa yng Nghyffordd Llandudno.

Y rhai tu ôl i’r fenter hon oedd Ben Hamer, Carwyn George a Hannah Dalton, sef ‘Sêr y Dyfodol’ rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr addawol Tai Gogledd Cymru.

Eglurodd Hannah Dalton: 

“Yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn frwd dros helpu pobl eraill. Mae cost gynyddol bwyd yn her i deuluoedd a gall y Nadolig fod yn arbennig o anodd ac roeddem am helpu mewn rhyw ffordd.

 “Mae’r ymateb i’r ymgyrch rhoddion wedi bod yn anhygoel, mae wedi bod yn llawer gwell na’r disgwyl rydym yn hynod falch o’r holl roddion a gyfrannwyd.”

Cafodd y mynydd o roddion ei roi i Fanc Bwyd Canolfan Gymunedol Ty Hapus yn Llandudno cyn y Nadolig.

Dywedodd Jayne, Rheolwr Canolfan yn Ty Hapus:

“Diolch i staff Tai Gogledd Cymru am eu cyfraniad, bydd hyn yn helpu nifer o deuluoedd dros y Nadolig. 

Bydd y rhoddion hyn yn cael eu defnyddio i greu parsel arbennig gan roi digon o fwyd i ddarparu 3 pryd am 7 diwrnod. Rydym hefyd yn credu’n gryf fod pawb yn haeddu Nadolig, ac yn cynnwys ‘nwyddau moethus’ yr ydym efallai yn eu cymryd yn ganiataol, e.e. mins peis, pwdinau Nadolig, siocled.” 

Os hoffech gyfrannu eitemau ar gyfer Banc Bwyd Ty Hapus, gallwch alw heibio a’u gollwng yng Nghanolfan Gymunedol Ty Hapus, Ffordd Penrhyn, Llandudno, Conwy, LL30 1HB