Cymryd rhan a dweud eich dweud ar sut y mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei rhedeg!

Rydyn ni am roi ein tenantiaid wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud … Cymerwch ran a chael dweud eich dweud ar sut y mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei rhedeg!

Pam cymryd rhan?

  • Cael llais go iawn yn eich gwasanaethau tai a chwarae rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cartref a’r ardal rydych chi’n byw ynddi
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Cyfarfod â phreswylwyr eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd – efallai y cewch chi hyd yn oed ychydig o hwyl!
  • Gweld y syniadau a’r pryderon rydych yn eu codi yn cael eu rhoi ar waith er budd amrywiaeth eang o bobl
  • Dod i adnabod staff Tai Gogledd Cymru a rhoi wyneb i’r enw

Mae Carol o Hen Golwyn wedi bod yn ymwneud â llawer o grwpiau a phaneli dros y blynyddoedd:

“Mi wnes i ddechrau gwirfoddoli efo Tai Gogledd Cymru yn ôl yn 2009. Mae wedi bod yn llawer o hwyl, ac yn ddiddorol iawn, i mi fod yn rhan o wneud penderfyniadau, ac rwyf wedi cael dylanwad dros lawer o bethau sy’n effeithio arnaf yn uniongyrchol, yn y cartref rwy’n byw ynddo.

Hefyd, mae Tai Gogledd Cymru wir yn gwerthfawrogi cael fy adborth a chlywed fy marn ar faterion sy’n effeithio arnaf, a sut rwy’n byw yn fy nghartref.

Peidiwch ag oedi cyn cymryd rhan, mae mor werth chweil!”

Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid

Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud ar sut y mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei rhedeg!

Mae’r Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd â staff Tai Gogledd Cymru, ac yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth, dylanwadu ar ein penderfyniadau, a chryfhau ein gwasanaethau.

Ein nod yw ceisio neilltuo pob cyfarfod i bwnc penodol, gan ganiatáu i aelodau ddysgu mwy am Tai Gogledd Cymru, a rhoi mewnbwn ac adborth i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.

Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd, a gallwn fod yn hyblyg gydag amseriad cyfarfodydd er mwyn ystyried eich amgylchiadau.

Dywed Bethan, sy’n aelod o’r fforwm:

“Mae bod yn rhan o fforwm tenantiaid yn rhoi llais i ni –fel landlord efallai y bydd gan Tai Gogledd Cymru flaenoriaethau a systemau gwahanol weithiau a allai anwybyddu’r hyn sydd ei angen arnom ni fel tenantiaid, felly mae ein mewnbwn yn helpu i ddatblygu’r darlun ehangach. Grŵp o denantiaid ydym ni o wahanol leoliadau ac oedran amrywiol, mae’r adborth rydyn ni’n ei roi yn helpu Tai Gogledd Cymru i weld yr effaith ar y tenant er mwyn datblygu gwell profiad tenant i eraill.”

Panel Tenantiaid a Chymunedau

Mae’r Panel yn cynnwys aelodau’r Bwrdd, tenantiaid a staff, ac mae’n cyfarfod bob dau fis (ar-lein ar hyn o bryd). Mae gan y Panel y cyfrifoldeb hwn i graffu ar ein gwasanaethau a’n perfformiad er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn derbyn y safonau gwasanaeth uchaf posibl.

Rhoddir cefnogaeth a hyfforddiant llawn i aelodau newydd.

Dywed Alan sy’n denant ac yn aelod o’r panel:

“Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig cynnwys tenantiaid fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau a allai effeithio ar eu bywydau nhw a bywydau tenantiaid eraill. Rwy’n gobeithio bod fy ymdrechion yn cael effaith gadarnhaol ar ran tenantiaid.”

Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb neu ddysgu mwy am y Fforwm Tenantiaid a’r Panel Cymunedau a Thenantiaid, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu ag Iwan Evans ar [email protected] neu ffonio 01492 563232.