Cynllun tai £1.5m newydd Bae Colwyn yn cael ei agor yn swyddogol

Agorwyd datblygiad tai fforddiadwy newydd Nant Eirias ym Mae Colwyn yn swyddogol gan Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn digwyddiad ffurfiol ar ddydd Iau, y 3ydd o Hydref 2019.

Mae cyfanswm o 12 fflat un a dwy ystafell wely wedi’u hadeiladu gan Tai Gogledd Cymru fel rhan o’r prosiect £1.5 miliwn.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr, Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi creu 12 cartref rhent fforddiadwy newydd ym Mae Colwyn. Mae hyn yn ganlyniad i weithio mewn partneriaeth ardderchog gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi gwella rhagolygon tai teuluoedd lleol ifanc ac wedi helpu i fynd i’r afael â’r mater ehangach o brinder tai.

Y cartrefi newydd oedd datblygiad rhent canolraddol cyntaf Tai Gogledd Cymru; mae hyn yn golygu eu bod wedi’u hanelu at bobl mewn gwaith, neu sy’n gallu talu’r rhent heb gymorth ariannol ond yn cael eu gosod ar rent is na’r rhent a godir am gartrefi tebyg yn yr ardal gan landlordiaid preifat. Roedd y gosodiadau’n cael eu rheoli gan Tai Teg, Cofrestr Cartrefi Fforddiadwy Conwy.

Mae’r datblygiad newydd yn rhan o Raglen Adfywio Bywyd y Bae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; a ddatblygwyd gyda chefnogaeth grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Rydym eisiau cefnogi ein trefi i sicrhau eu bod yn lleoedd deniadol, bywiog i bobl fyw, gweithio ac ymweld â nhw – ac roeddwn i’n falch o weld y datblygiad gorffenedig a gobeithio y bydd y preswylwyr yn hapus yn eu cartrefi newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Dai i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Roedd y safle hwn wedi bod yn ddolur llygad ers blynyddoedd ac, o ystyried ei leoliad, roedd yn lle delfrydol ar gyfer eiddo preswyl. Felly, rwy’n falch iawn o weld y datblygiad hwn o dai fforddiadwy o ansawdd da yn dwyn ffrwyth. Mae tai fforddiadwy i bobl leol yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Rwy’n gobeithio bod y tenantiaid yn ymgartrefu’n dda a hoffwn ddymuno’r gorau iddynt yn eu cartrefi newydd.”

Nid y preswylwyr yn unig sydd wedi elwa o’r datblygiad newydd hwn, bu llawer o fuddion cymunedol hefyd, gan gynnwys hyfforddiant lleol a chyfleoedd cyflogaeth.

Mae’r cartrefi newydd yn effeithlon o ran costau rhedeg ynni – ystyriaeth allweddol o ariannu’r cynllun trwy Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Conwy a Llywodraeth Cymru.