Cysyniad newydd mewn tai i bobl hŷn gyda gofal ym Mangor

Mae’r gwaith adeiladu ar gynllun tai gofal ychwanegol £8.35 miliwn newydd ym Mangor yn magu stêm, gan nodi datblygu cysyniad newydd mewn tai i bobl hŷn sy’n byw yny dref.

Mae Tai Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, yn rheoli datblygiad arloesol ‘Cae Garnedd’, sy’n cael ei ddatblygu ar safle hen dŷ ar Ffordd Penrhos, a bellach mae’r fflat arddangos ar agor i’r cyhoedd.

Y cynllun gofal ychwanegol yma fydd y cyntaf o’i fath ar gyfer Bangor ac mae’n cynnig ffordd amgen o fyw ar gyfer pobl hŷn, gan ddarparu byw’n annibynnol gyda chefnogaeth gofal a chymorth. Diben Gofal Ychwanegol yw pontio’r bwlch rhwng byw’n annibynnol a gofal cartref nyrsio. Mae’n cynnig dewis i bobl hŷn o ran lefel y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt wrth fwynhau eu hannibyniaeth.

Mae’r cynllun yn cynnwys 15 o fflatiau un ystafell wely a 27 o fflatiau dwy ystafell wely, pob un yn cynnwys ei chegin, ei hystafell fyw a’i hystafell ymolchi ei hun. Gall preswylwyr ddefnyddio cymaint neu gyn lleied ag y dymunant o’r cyfleusterau cymunedol sydd ar gael. Mae’r cyfleusterau hynny yn cynnwys mannau gorffwys, hamdden a gweithgarwch, yn ogystal ag ardal ganolog ar gyfer bwyd wedi’i arlwyo. Mae gofal pedair awr ar hugain ar gael a gaiff ei bennu gan anghenion pob unigolyn y gellir addasu cynllun gofal ar eu cyfer wrth i’w hanghenion newid.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Dyma’r cynllun gofal ychwanegol cyntaf ym Mangor ac mae’n darparu dewis amgen pwysig i aelodau hŷn ein cymuned wrth ystyried eu hopsiynau tai. Rydym yn hynod falch o allu cynnig y cynllun hwn i’r dref.”

“I lawer o bobl hŷn, gall cyfleoedd byw fod ar y naill neu’r llall o ddau ben gwahanol iawn i’r sbectrwm, o fyw’n gwbl annibynnol i ofal preswyl neu nyrsio. Mae Gofal Ychwanegol yn pontio’r bwlch hwn ac yn cynnig dewis i gadw eu bywyd annibynnol ond gyda chymorth a gofal ar gael yn ôl yr angen.”

Ychwanegodd Paul:

“Mae’r adeilad ei hun wedi ei leoli mewn safle ardderchog, yn cynnig mynediad hawdd i gyrchfannau ac atyniadau allweddol o fewn y dref. Mae llawer o drigolion lleol eisoes wedi mynegi a chofrestru eu diddordeb. Mae’r fflat arddangos bellach ar agor ac rydym wedi penodi rheolwr cynllun a fydd yn falch i dywys pobl o gwmpas y lle.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ofal:

“Rwy’n falch iawn bod y gwaith ar y safle tai gofal ychwanegol ym Mhenrhosgarnedd yn dod yn ei flaen mor dda.”

“Ar ôl ei gwblhau, bydd Cae Garnedd yn cynnig cartref cyfforddus i bobl hŷn yn ogystal â thawelwch meddwl o gael gwasanaethau gofal hyblyg.”

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, gyda K & C Construction o Ginmel yn gwneud y gwaith adeiladu gan gyflogi crefftwyr, cyflenwyr a masnachwyr lleol. Mae’r strwythur yn cael ei hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau amgylcheddol cadarn ac ar ôl cwblhau disgwylir i’r prosiect sicrhau sgôr Ardderchog safon BREEAM.