Datblygiad tai cydweithredol trefol cyntaf Cymru yn agor yn swyddogol

Ar 13eg o  Ionawr agorwyd ‘Datblygiad Tai Afallon’, a adeiladwyd gan y fenter Tai Cymunedol Cydweithredol trefol gyntaf yng Nghymru, yn swyddogol gan Nic Bliss, Cadeirydd y Cydffederasiwn Tai Cydweithredol.

Sefydlwyd Menter Tai Cydweithredol Gorllewin y Rhyl, gan Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl a Tai Gogledd Cymru, i ddatblygu cymuned newydd wedi ei grymuso yng nghalon ardal adfywio Gorllewin y Rhyl.

‘Datblygiad Tai Afallon’, gyferbyn â pharc Gerddi Heulwen, yw datblygiad cyntaf y fenter gydweithredol, gan greu cartrefi newydd ar gyfer 11 o deuluoedd, cyplau ac unigolion lleol.

Yn cynnwys 7 o dai teuluol wedi eu hadeiladu o’r newydd a 4 fflat wedi eu hadnewyddu’n llwyr, symudodd y 7 teulu cyntaf yn symud i mewn i’r datblygiad tai ar ddiwedd mis Hydref 2016, ac ers hynny maent wedi mwynhau eu Nadolig cyntaf yn eu cartrefi newydd. Mae’r 4 teulu sy’n weddill wedi symud i mewn i’w fflatiau newydd y mis hwn; sy’n ffordd wych o ddechrau’r Flwyddyn Newydd.

Mae Tom Jones, un o’r preswylwyr a Chadeirydd Pwyllgor Preswylwyr Afallon yn hapus gyda’i gartref newydd:

“Mae hwn yn gyfle anhygoel i symud i eiddo newydd sbon a chael llais yn y ffordd y caiff ei reoli. Mae Gorllewin y Rhyl bob amser wedi bod yn lle gwych i fyw ynndo a rŵan gallwn edrych ymlaen at adeiladu cymuned newydd sbon yn ei ganol.”

Dywedodd Fiona Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl:

“Mae Datblygiad Tai Afallon yn gynllun hynod bwysig yng Ngorllewin y Rhyl. Mae’n benllanw 6 mlynedd o waith caled gan wirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned, i greu Ymddiriedolaeth Tir Gorllewin y Rhyl, datblygu partneriaeth gyda Tai Gogledd Cymru ac wedi hynny y fenter Tai Cydweithredol newydd.”

“Roedd dyheadau’r gymuned yn cynnwys cael tai o ansawdd gwell yn yr ardal a dyna’n union sydd wedi ei gyflawni.”

Ychwanegodd Nikki Jones, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl:

“Mae hon yn eiliad o falchder i’r rhai hynny ohonom sydd wedi ymdrechu i sicrhau bod y datblygiad hwn yn digwydd. Mae ein Bwrdd Cymunedol wedi bod yn ymroddedig i gynhyrchu canlyniad cadarnhaol ar gyfer Gorllewin y Rhyl, ac mae eu hymroddiad bellach wedi talu ar ei ganfed.”

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae Afallon yn ddatblygiad tai unigryw ac mae Tai Gogledd Cymru yn falch o fod yn rhan o’r prosiect. Mae’r datblygiad wedi rhagori ar ein disgwyliadau ac mae’r tai yn enghraifft wych o sut y byddai tai wedi edrych yn yr ardal.”

“Mae’r model cydweithredol wedi gweithio’n dda ac rydym yn falch bod yna eisoes ymdeimlad o gymuned ar y stryd; ac heb amheuaeth mae’r diolch am hynny i’r fenter gydweithredol.”

Dywedodd Dave Palmer, rheolwr prosiect Tai Cydweithredol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

“Bydd galluogi pobl leol i wneud penderfyniadau am eu cartrefi yn gwneud gwahaniaeth enfawr a chadarnhaol i iechyd a lles ein cymunedau yn y dyfodol. Oherwydd eu natur, mae mentrau tai cydweithredol yn fwy cydweithredol a democrataidd, ac maent yn annog a chefnogi rheolaeth gan y gymuned leol ar eu cymdogaethau cyfagos.

“Mae rhaglen Tai Cydweithredol Cymru wedi dangos i ni bod tai cydweithredol yn ddigon hyblyg i ddiwallu llawer o anghenion a phob math o ddeiliadaeth. Yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru, rydym yn gweithio i sicrhau bod tai cydweithredol yn darparu cyfran sylweddol o’r 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd fydd yn cael eu hadeiladu yn ystod y tymor Llywodraeth Cymru hwn.”

Mae mentrau tai cydweithredol yn rhoi mwy o lais i denantiaid ar faterion o ddydd i ddydd sy’n gallu effeithio ar ansawdd eu bywydau. Gallai materion gynnwys penodi contractwyr cynnal a chadw, pennu taliadau gwasanaeth, dyrannu tai i denantiaid newydd sy’n ymuno â’r gymuned a threfnu digwyddiadau.

I gael eu hystyried i fod yn rhan o’r fenter gydweithredol, roedd gofyn i denantiaid posib fod wedi byw, gweithio neu wirfoddoli yn y Rhyl am o leiaf ddwy o’r pum mlynedd diwethaf a chawsant eu hasesu ar eu haddasrwydd yn erbyn meini prawf allweddol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:

“Mae datblygiad Afallon yn enghraifft wych o sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy o safon uchel, ac rwy’n falch bod tenantiaid eisoes yn mwynhau eu cartrefi newydd.

“Mae’r prosiect hwn yn elfen allweddol o Raglen Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, sy’n cael ei harwain gan fuddsoddiad o bron i £17m gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella tai a darparu mannau gwyrdd yn yr ardal a fydd yn hanfodol o ran cyfrannu at adfywio’r dref.”

I gloi dywedodd Helena Kirk:

“Rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr yn mwynhau byw yn eu cartrefi newydd ac edrychwn ymlaen at weld eu hysbryd cymunedol yn parhau.”