Datgelu cyfanswm blynyddol codi arian i elusennau

Mae Tai Gogledd Cymru (TGC) yn falch o ddatgelu ein bod wedi codi cyfanswm o £3,752 ar gyfer elusennau yn 2017 – 2019.

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, bydd y cyfanswm hwn yn cael ei rannu rhwng dwy elusen, Createasmile ac i brynu CuddleCot ar gyfer Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Esboniodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid, sydd hefyd yn arwain y Panel Elusennau:

“Mae wedi bod yn bleser i ni godi arian ar gyfer dau achos gwerth chweil; nid oedd y Panel Elusennau yn gallu penderfynu rhwng y ddau ac roeddem yn meddwl pam ddim rhannu’r arian!”

Codwyd y cyfanswm gan lif cyson o weithgareddau, gan gynnwys arwerthiant Facebook, bingo, rafflau, siop fwyd a gwisgo dillad anffurfiol ar ddiwrnod cyflog.

Mae Creatasmile yn elusen gofrestredig ar gyfer plant ag awtistiaeth/asperger ADHD, pob anabledd, anghenion addysgol arbennig a’u teuluoedd. Maent yn cynnig sesiynau hwyl i’r teulu ac yn cefnogi misol ar draws gogledd Cymru.

Derbyniodd Sharon L. Bateman, Prif Weithredwr/Sylfaenydd Creatasmile y siec gan Banel Elusennau TGC ym mis Mehefin eleni:

“Mae Creatasmile wrth ei fodd o dderbyn yr arian a godwyd diolch i bawb yn Tai Gogledd Cymru a’u tenantiaid.”

“Mae’r arian a godir yn rhoi cyfle i blant a theuluoedd fwynhau digwyddiadau hwyliog yn fisol lle gall plant ag awtistiaeth ac anghenion ychwanegol fod yn nhw eu hunain ymhell o ragfarn pobl nad ydynt yn deall anhwylderau sbectrwm a lle gall eu teulu ymlacio a chyfarfod ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, yn ogystal â’n galluogi i ddarparu hyfforddiant a chymwysterau Agored Cymru ar gyfer plant hŷn sydd ag anghenion ychwanegol dros 13 oed.”

“Ethos Creatasmile yw y dylai pob plentyn a pherson ifanc allu cyrraedd eu llawn botensial a diolch i Tai Gogledd Cymru rydym yn gallu gweld hyn yn digwydd yn ein cymuned.”

Ail ddewis y Panel Elusennau yw Cuddle Cot ar gyfer Ysbyty Gwynedd. Pad oeri yw’r cot y gellir ei roi mewn unrhyw fath o wely baban – o fasgedi Moses i gotiau cario, pramiau neu gotiau – er mwyn caniatáu amser i alaru i deulu sydd wedi colli baban. Mae Tai Gogledd Cymru wedi codi digon o arian i Ysbyty Gwynedd brynu un Cuddle Cot.

Dywedodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid:

“Mae staff TGC yn hoffi cymryd rhan yn y gymuned; wrth weithio yn y maes tai gallwn weld y budd o fuddsoddi yn y gymuned a’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig.”

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn unrhyw un o’r gweithgareddau codi arian; gwnaed hyn i gyd y tu allan i amser gwaith, felly rydym yn ei werthfawrogi’n fawr. Diolch hefyd i bob busnes a roddodd wobrau i’n harwerthiant Facebook.”

Rydym yn falch o ddatgelu mai’r elusen ar gyfer 2019 – 2020 yw Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru. Fe’i ffurfiwyd ym mis Mai 1973 ac mae’r gymdeithas yn darparu gwasanaethau achub ledled gogledd Cymru trwy ei sefydliadau sy’n aelodau. Mae’r timau’n cynnwys tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi yn y de, Tîm Chwilio ac Achub De Eryri, Tîm Achub Mynydd Aberglasyn, Tîm Achub Mynydd Llanberis, Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru.

Maent yn darparu ystod o weithgareddau achub gan gynnwys chwilio am bobl mewn tir mynyddig ac anhygyrch, achub rhag dyfroedd cyflym a llifogydd a chwilio am bobl fregus sydd ar goll o’u cartref. Mae ei holl aelodau yn wirfoddolwyr di-dâl, sy’n barod i ddod allan ym mhob tywydd ar unrhyw adeg o’r dydd i helpu rhai mewn angen.