Datgelu enwau enillwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth
Cynhaliwyd cystadleuaeth Ffotograffiaeth Tai Gogledd Cymru am yr ail flynedd yn olynol ym mis Tachwedd eleni. Y thema eleni oedd ‘Dal sylw’ ac ysbrydoliaeth a wnaeth ddal eich llygad unrhyw le – o lan y môr, anifeiliaid a gerddi ar draws gogledd Cymru.
Mae’r beirniaid wedi dod at ei gilydd ac wedi trafod, a gallwn ddatgelu enwau’r enillwyr yn awr.
1. Mitzi, Bae Colwyn
2. Anne Clegg, Hafod y Parc, Abergele
Ac yn gydradd 3ydd roedd:
3. Rachael Roberts, Rhiw Bank Terrace, Bae Colwy
3. Debbie Scotson, Maes Derw, Cyffordd Llandudno
Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr! A diolch i bawb a gystadlodd; cawsom ffotograffau gwych a chafodd y beirniaid waith caled yn dewis yr enillwyr!
Eleni fe wnaethom gynnal cystadleuaeth garddio a ffotograffiaeth. Os oes gennych chi unrhyw syniadau ar unrhyw gystadlaethau neu fentrau yr hoffech weld TGC yn eu cynnal, cysylltwch ag Iwan ar 01492 563232 neu [email protected]