Dathlu cymdogion da

Gall cael cymydog da wneud gwahaniaeth enfawr i gymuned ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i wobrwyo.

Bwriad y cynllun yw diolch i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol.

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen?

Fel tenant i ni, gallwch enwebu tenant arall Tai Gogledd Cymru am wobr, gyda chyfle iddyn nhw ennill £50, ac fel diolch am enwebu enillydd gwobr, cewch chithau hefyd daleb siopa gwerth £10.

Os ydych chi’n gwybod am denant sy’n mynd y filltir ychwanegol er mwyn helpu eraill yna rydym eisiau clywed gennych! Dyddiad cau: 25/10/2019