Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018

Bydd eich hawl fel tenant Tai Gogledd Cymru i brynu neu gaffael eich cartref yn dod i ben ar 26 Ionawr 2019. Mae hyn oherwydd deddf newydd a gyflwynwyd yng Nghymru o’r enw Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

Bydd yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu a Gadwyd yn dod i ben ar 24 Mawrth 2018 ar gyfer ‘cartrefi newydd’. Caiff Cartrefi Newydd eu hystyried fel eiddo nad ydynt wedi eu gosod fel tai cymdeithasol am y chwe mis cyn 24 Mawrth 2018.

Esbonnir y newidiadau hyn a allai effeithio arnoch yn y llyfryn ‘Gwybodaeth am derfyn yr Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael yng Nghymru’ sydd ar gael i’w ddarllen yma. Mae hwn yn llyfryn sy’n egluro’r beth sydd angen i chi ei wybod am ddiwedd yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael a’r hyn y dylech ei wneud os ydych chi’n ystyried gwneud cais i brynu eich cartref oddi wrthym.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01492 572727.

Gwybodaeth am derfyn yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yng Nghymru