Defnyddwyr gwasanaeth yn dysgu sgiliau tg diolch i BT

Mae defnyddwyr gwasanaeth yn hostel i’r digartref Pendinas ym Mangor yn gweithio ar ddatblygu sgiliau TG hanfodol, diolch i rodd o ddau gyfrifiadur personol gan BT.

Cyn hynny nid oedd gan yr hostel, sy’n cael ei reoli gan Tai Gogledd Cymru, unrhyw offer TG, oedd yn golygu bod pob ffurflen, cais am swyddi a gohebiaeth yn gorfod cael ei gwblhau â llaw neu drwy ddefnyddio cyfrifiaduron allanol. Bellach, gyda chefnogaeth y staff, mae’r defnyddwyr gwasanaeth yn gallu datblygu sgiliau TG sylfaenol, a fydd yn eu helpu wrth iddynt barhau â’u taith yn ôl tuag at fyw’n annibynnol.

Dywedodd Else Lyon, Rheolwr Hostel Pendinas:

“Mae sgiliau TG yn hanfodol yng nghymdeithas heddiw ac yn y farchnad swyddi ehangach. Gyda chyllid eisoes o dan straen aruthrol, nid oes unrhyw ffordd y gallem fforddio prynu unrhyw offer, felly mae’r rhodd yma wedi bod yn wych.”

“Datblygodd ein cysylltiad â BT yn sgîl menter Busnes yn y Gymuned. Mae BT wedi cynnig rhywfaint o gymorth hynod ystyriol a fydd yn cael effaith barhaol a chadarnhaol ar bobl yr ydym yn gweithio â hwy – pobl yn aml iawn sy’n agored i niwed – ac mae’r rhodd anhygoel yma yn rhan o hynny, a rhoi cyfle hefyd i ddefnyddwyr ein gwasanaethau gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith.”

“Mae cefnogaeth fel hyn yn amhrisiadwy i ni ac yn ffordd o roi help llaw hanfodol i’n defnyddwyr gwasanaeth.”

Dywedodd Geraint Strello, rheolwr rhanbarthol BT:

“Mae BT yn deall pwysigrwydd cael sgiliau TG a mynediad at offer TG ac rydym yn falch o gefnogi’r gwaith a wneir gan Tai Gogledd Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y cyfrifiaduron hyn o werth gwirioneddol ac yn helpu defnyddwyr gwasanaeth yn yr hostel.”