Dewis Jamie ar gyfer Cwpan y Byd i’r Digartref

Yn ddiweddar, dewiswyd un o gyn-breswylwyr Hostel Noddfa Tai Gogledd Cymru i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth nodedig Cwpan y Byd i’r Digartref.

Cyfeiriwyd Jamie Collins at Tai Gogledd Cymru rhyw 3 blynedd yn ôl, ac fe dreuliodd beth amser yn Noddfa – mae wedi sicrhau llety parhaol yn ddiweddar. Yn ystod ei amser yn yr hostel, mynychodd Jamie gystadleuaeth Pêl-droed Stryd Cymru ar gyfer gogledd Cymru a bu’n gapten ar dîm Noddfa gan eu harwain at sawl buddugoliaeth, ac ennill nifer o dlysau dros y 3 blynedd diwethaf.

Bob blwyddyn mae Pêl-droed Stryd Cymru (SFW) yn mynychu Cwpan y Byd i’r Digartref. Mae dros 70 o dimau o bob cwr o’r byd yn dod ynghyd mewn gwahanol leoliadau ar draws y byd i gymryd rhan yn y twrnament. Eleni mae’n cael ei gynnal yn Ninas Mecsico ym mis Tachwedd.

Mynychodd dewiswyr SFW ddiwrnod olaf tymor y Gogledd er mwyn edrych ar chwaraewyr yr ardal ac i chwilio am unigolion i fynychu treialon Cymru. Gwnaeth Jamie gryn argraff oherwydd ei sgiliau arwain, ei benderfyniad, ei agwedd a’i angerdd, yn ogystal â’i sgiliau pêl-droed gwych – arweiniodd at gael ei ddewis i fynychu’r treialon cenedlaethol yng Nghasnewydd. Llwyddodd Jamie i wneud ei farc ac felly cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd eleni.

Bydd cymryd rhan yn golygu llawer o waith caled iddo. Nid yw erioed wedi bod dramor o’r blaen a bydd rhaid iddo deithio i dde Cymru o leiaf unwaith yr wythnos ar gyfer sesiynau hyfforddi, lluniau tîm, gwaith elusennol ac i gyfarfod â’r wasg.

m amheuaeth bod hwn yn gyfle unwaith mewn oes – mae’n anhygoel. Dydw i erioed wedi bod dramor o’r blaen felly bydd mynd i Mecsico yn brofiad newydd go iawn. Rwy’n caru pêl-droed ac rwyf mor falch y byddaf yn cynrychioli fy ngwlad yn y gystadleuaeth wych hon.”

Pwrpas Cwpan y Byd i’r Digartref yw defnyddio pêl-droed i helpu pobl sy’n ddigartref i geisio newid eu bywydau. Mae pobl sy’n ddigartref yn aml yn cael eu hynysu, felly mae’r digwyddiad yn gyfle gwych iddynt gymdeithasu a bod yn rhan o dîm a dysgu ymddiried mewn eraill – sgiliau a all fod o gymorth mawr iddynt yn y tymor hir wrth iddynt symud i gartref sefydlog.

Bob blwyddyn mae Sefydliad Cwpan y Byd i’r Digartref yn cynnal twrnament pêl-droed stryd dros gyfnod o wythnos. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf erioed yn Gaza, Awstria yn 2003. Ers hynny mae’r gystadleuaeth wedi bod i bymtheg o ddinasoedd gwahanol ar draws y byd. Bob blwyddyn mae’r gystadleuaeth yn denu cynulleidfa o dros 80,000 gyda thros 500 o chwaraewyr yn cymryd rhan, yn cynrychioli 47 o wledydd gwahanol.