Diddymu’r Hawl i Gaffael
Bydd yr Hawl i Gaffael eu cartrefi i denantiaid Cymdeithasau Tai yn dod i ben ar 26 Ionawr 2018.
Ar 24 Ionawr 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil o Ddiddymu Hawl i Gaffael mewn dull graddedig: yn gyntaf, drwy gyfyngu ar hawliau tenantiaid i brynu unrhyw dai sy’n newydd i’r cyflenwad tai cymdeithasol (daeth i rym ar 24 Mawrth 2018) ac ar 26 Ionawr 2019 yn diddymu’r hawliau hynny ar gyfer pob cyflenwad perthnasol yn llwyr.
Os ydych yn denant i Tai Gogledd Cymru efallai y byddwch yn gallu prynu eich cartref am ddisgownt o dan Gynllun Hawl i Gaffael. Gallai prynu eich cartref ddarparu buddsoddiad ar gyfer y dyfodol. Mae’n debygol o fod yn un o’r penderfyniadau ariannol mwyaf y byddwch yn ei wneud, felly dylech geisio cyngor ariannol a chyfreithiol diduedd ymlaen llaw.
Er mwyn bod yn gymwys am Hawl i Gaffael bydd rhaid eich bod:
- Yn byw mewn eiddo Tai Gogledd Cymru cymwys
- Gyda thenantiaeth Sicr neu Aswiriedig
- Yn denant sector cyhoeddus am o leiaf 2 flynedd os oedd y tenatiaeth cyn Ionawr 2005 a 5 mlynedd os oedd y tenantiaeth ar ôl Ionawr 2005.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar eu gwefan yn rhoi gwybodaeth i helpu egluro’r hyn mae tenantiaid angen ei wybod am ddiwedd yr Hawl i Gaffael, a be i’w wneud petaent yn ystyried gwneud cais i brynu eu cartref.
Ni fydd Tai Gogledd Cymru yn gallu ystyried unrhyw geisiadau Hawl i Gaffael ar ôl 25 Ionawr 2019.
Am ragor o wybodaeth am eich Hawl i Gaffael cysylltwch â [email protected] neu 01492 572727.