Diolch yn fawr gan dîm digartrefedd Bangor

Mae tîm helpu’r digartref ym Mangor wedi cael llu o roddion dros y Nadolig ac maen nhw’n awyddus iawn i ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi eu hapêl ddiweddar.

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC) yn rhedeg dwy hostel ym Mangor, sef Hostel y Santes Fair a Pendinas. Maen nhw yn dibynnu ar roddion ar hyd y flwyddyn, ond mae misoedd oer y gaeaf bob amser yn fwy o her – gyda mwy o angen am loches, sachau cysgu a dillad cynnes. Mae’r ddau leoliad bob amser yn llawn, gyda staff Santes Fair hefyd yn cefnogi rhai sy’n cysgu ar y stryd trwy ddarparu prydau bwyd cyson a phethau hanfodol eraill fel pebyll a blancedi.

Mae’r tîm yn CTGC yn awyddus i ddiolch i Grŵp Hogan yn arbennig am gyfrannu pebyll a llochesi newydd yn ddiweddar.

Mae Barbara Fitzsimmons yn un o staff CTGC sy’n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth yn Santes Fair, ac meddai: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl roddion rydym wedi eu derbyn eleni. Mae pobl wedi ymateb i’n hapêl ac wedi mynd allan o’u ffordd i ddod â’r pethau sydd eu gwir angen arnom i helpu pobl ddigartref yr ardal.

“Rydym yn ddiolchgar i Hogan yn arbennig am y pebyll y maen nhw wedi’u roi. Rydym yn dibynnu ar roddion fel hyn er mwyn rhoi cysgod i’r rhai sy’n byw ar ein strydoedd rhag y tywydd oer a gwlyb.”

Dywedodd Kevin Hogan, Cyfarwyddwr y cwmni adeiladu o Fangor: “Rhan o’n hethos ni yw rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned lle rydym yn byw ac yn gweithio ynddi – rydym yn benderfynol o wneud hyn ym mhob agwedd o’n gwaith. Rydym wedi cael cyswllt gyda Hostel Santes Fair ers blynyddoedd ac roeddem yn awyddus i barhau â’r berthynas hon trwy gyfrannu’r pebyll pwysig yma eto eleni. Rwy’n gobeithio y byddant yn rhywfaint o help i’r rhai sydd heb loches yn ardal Bangor y gaeaf hwn.”

Mae Hosteli Pendinas a Santes Fair yn dibynnu ar roddion a dylai unrhyw un sydd eisiau cynnig cyfranu alw heibio Hostel y Santes Fair, Ffordd Cariadon, Bangor neu ffoniwch 01248 36221.