Diweddariad Macmillan

Mae staff a phreswylwyr adran Pobl Hyn Tai Gogledd Cymru wedi llwyddo i godi cyfanswm o £1,054 tuag at Fore Coffi Macmillan mewn digwyddiadau amrywiol ar draws yr ardal.

Bore Coffi Mwyaf y Byd yw digwyddiad codi arian mwyaf Macmillan. Mae pobl ar draws y DU yn cynnal eu bore coffi eu hunain gyda chyfraniadau yn cael eu gwneud i Macmillan ar y diwrnod. Cynhaliwyd y bore coffi cyntaf yn 1990. Digwyddiad bychan oedd hwn efo pobl yn cwrdd dros baned ac yn cyfrannu pris y coffi at yr elusen. Fe weithiodd hwn mor dda fel y penderfynwyd cynnal un yn y flwyddyn ganlynol – ac ers hynny mae’r Bore Coffi wedi casglu dros £200 miliwn tuag at Macmillan.