Diwrnod Digartrefedd Rhyngwadol 2018

Mae Tai Gogledd Cymru yn arwain y ffordd wrth ddarparu cefnogaeth i’r digartref yn yr ardal.

Gyda misoedd caled y gaeaf o’n blaenau mae’r  tîm yn Tai Gogledd Cymru yn paratoi ac yn gwneud cais brys am roddion o ddillad cynnes, sachau cysgu a phebyll ar gyfer y digartref.

Roedd gaeaf 2017/2018 yn arbennig o galed gyda sawl cyfnod oer iawn a’r tymheredd yn disgyn o dan y rhewbwynt. Gall tywydd garw a thymheredd isel fod yn anodd i nifer ohonom – fel arfer yn amharu ar ein trefniadau dydd i ddydd. Ond, i bobl ddigartref mae’n golygu bod y problemau maen nhw yn wynebu o ddydd i ddydd yn mynd hyd yn oed yn fwy anodd wrth iddynt frwydro i gadw yn gynnes pan mae hi yn rhewi.

Lorna Hughes yw Rheolwr y Tîm Allgymorth ac Ailsefydlu yn Tai Gogledd Cymru – mae’n disgrifio ei gwaith o ddydd i ddydd: “Bydd llawer o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni. Dydi llawer o bobl ddim yn sylweddoli cymaint fyddwn ni’n ei wneud i gefnogi’r bobl sy’n ddigartref ar y stryd yng Ngwynedd. Rydym yn cynnig cefnogaeth i bawb sy’n cysgu allan, gall fod yn ddillad a lloches wedi’u rhoi gan y cyhoedd a busnesau lleol, neu brydau bwyd poeth o’n gwasanaeth giât yn Hostel Santes Fair ym Mangor. Mae ein Tîm Allgymorth yn gwneud gwaith hanfodol ar y stryd efo pobl sy’n cysgu allan ym Mangor. Yn anffodus nid pawb sy’n dewis derbyn ein cymorth – ond mae’n bwysig eu bod nhw’n gwybod ein bod ni yma i helpu os byddan nhw angen.”

Yn ystod y misoedd oes gaeaf diwethaf roedd swyddogion Tai Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd yn gwneud gwaith hanfodol wrth drefnu llefydd i bobl aros yn ystod y tywydd oer iawn – felly roedd llawer fyddai fel arfer wedi bod yn cysgu allan yn cael to uwch eu pennau.

Ffactor pwysig sy’n sicrhau bod Tai Gogledd Cymru yn gallu parhau i ddarparu cefnogaeth yw rhoddion gan y cyhoedd a busnesau lleol. Mae adnoddau yn dynn, a heb y dillad cynnes, pebyll, sachau cysgu, a bwyd sy’n cael eu cryfrannu, mae Lorna yn egluro y byddai eu gwaith yn llawer mwy anodd.

I wneud cyfraniad cysylltwch gyda Tai Gogledd Cymru ar 01492 572727. Gallwch fynd a rhoddion yn syth i’r swyddfa ni ym Mangor, ar 30 Dean Street, Bangor, LL57 1UR neu’r swyddfa yn Cyffordd Llandudno yn Plas Blodwel, Broad Street, LL31 9HL.