Dweud eich dweud am eich rhent

Hoffech chi roi cynnig ar gystadleuaeth tynnu enwau o het am gyfle i ennill cerdyn rhodd Love2Shop gwerth £20!?

Os ydych chi’n denant gyda Tai Gogledd Cymru, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg isod. Byddwch yn cael eich cynnwys mewn cystadleuaeth tynnu enwau o het i gael cyfle i ennill taleb anrheg Love2shop gwerth £20.

Y llynedd rhoddodd Llywodraeth Cymru’r gallu i Gymdeithasau Tai godi rhenti hyd at 1% + CPI (chwyddiant yn seiliedig ar brisiau mis Medi) am y 5 mlynedd nesaf. Pe bydden ni’n defnyddio’r gyfradd uchaf hon byddai’r cynnydd rhent o Ebrill 2021 yn 1.5%.

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg ac rydym yn deall yr effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar ein bywydau a’n harian ni i gyd. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor anodd y bu’r flwyddyn hon ac mae’r canlyniadau’n debygol o barhau i mewn i’r Flwyddyn Newydd, felly rydym yn cynnig rhewi rhent rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022.

Mae’n rhaid i ni gynnal ymgynghoriad ar gyfer cynnydd mewn rhent; ond nid ydym wedi gallu gwneud hyn ers cryn amser oherwydd ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth. Gan fod gennym ymrwymiad 5 mlynedd gan Lywodraeth Cymru byddwn yn cynnal ymgynghoriadau rhent, gan ddechrau gyda’r flwyddyn hon.

Gyda phob ymgynghoriad mae yna opsiynau felly rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol ar gyfer lefelau rhent rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022.

  • Dim cynnydd
  • Cynnydd o 0.5%
  • Cynnydd o 1%

Gallwn eich sicrhau na fydd lleihad mewn lefelau gwasanaeth os mai’r opsiwn ‘dim cynnydd’ yw’r opsiwn fydd yn cael ei ffafrio.

Mae’r ddolen i gwblhau’r arolwg yma – https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=MRgpeqjnDEOXGXgOk_MvUr-n_XqykMpOrer-MTBdv6pURDcwSkE5TTBXOEk5UFBZVjFLUUswRFZLNS4u

Mae’r arolwg yn cau ar y 13eg o Ionawr 2021.

Os ydych am siarad â rhywun yn Tai Gogledd Cymru am yr arolwg hwn, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]