Dweud eich dweud am y cartrefi fforddiadwy newydd yn Plas Penrhyn
Mae Tai Gogledd Cymru ac Adra yn gweithio mewn partneriaeth am y tro cyntaf ar ddatblygiad arfaethedig Plas Penrhyn ym Mae Penrhyn. Mae cynllun Plas Penrhyn yn cynnwys wyth tŷ 3 ystafell wely ac wyth tŷ 2 ystafell wely, pedwar byngalo 2 ystafell wely ac un byngalo 2 ystafell wely gyda mynediad i gadeiriau olwyn, pob un â pharcio dynodedig.
Hoffem eich gwahodd i weminar rithwir gydag Adra a Tai Gogledd Cymru, i weld y cynlluniau a thrafod y cynigion.
Dyddiad: Dydd Iau 28 Ionawr 2021 (7.30yp – 8.30yp)
Sut i gofrestru ar gyfer y weminar
Gallwch gofrestru ar gyfer y weminar gan clicio ar y linc yma:
Os hoffech gyflwyno unrhyw gwestiynau am y cynllun cyn y weminar rhithwir, e-bostiwch eich cwestiynau at [email protected].