Galwadau lles tenantiaid
Mae lles ein tenantiaid yn hynod bwysig i ni. O Dydd Iau 26 o Fawrth byddwn yn cysylltu â phob tenant i weld sut ydych ac i helpu gyda’ch pryderon, gan ddechrau gyda’r rhai mwyaf agored i niwed.
Byddwn yn gofyn i chi:
- Ydych chi’n iawn? Oes angen help arnoch chi i siopa neu gasglu presgripsiynau?
- A oes gennych unrhyw anghenion neu bryderon eraill y gallem helpu efo nhw?
- Gwneud yn siŵr bod gennym y manylion cyswllt a’r wybodaeth gywir / gyfredol ar eich cyfer ar ein system
Os oes angen unrhyw help arnoch yn y cyfamser gallwch gysylltu â ni ar 01492 572727 neu [email protected]