Gofal ychwanewgol yn mynd gam yn ychwanegol

Dros nifer o flynyddoedd rydym wedi buddsoddi yn ein gwasanaethau i bobl hŷn gyda thri chynllun gofal ychwanegol wedi agor ers 2013. Mae adborth yn gyson gadarnhaol gan breswylwyr ac mae’r cynlluniau bron i 100% yn llawn.

Dyma gymryd golwg ar y gwaith sy’n cael ei wneud yng nghynllun gofal ychwanwegol Cae Garendd ym Mangor yn er mwyn gwella iechyd ac ansawdd bywyd trigolion.

Pontio’r cenedlaethau

Wedi llwyddiant cyfres deledu S4C ‘Hen blant Bach’ mae Tai Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, Ysgol y Garnedd, Penrhosgarnedd a Dr Catrin Hedd o Brifysgol Bangor i sefydlu prosiect i gysylltu’r cenedlaethau.

Cafodd y prosiect ei ariannu drwy’r Gronfa Gofal Integredig Cyngor Gwynedd – ac mae wedi rhoi cyfle i ddisgyblion 5 a 6 mlwydd oed fynychu gweithgareddau yn y cynllun tai gofal ychwanegol Cae Garnedd. Mae gweithgareddau yn cael eu trefnu ar gyfer yr ymweliadau gyda sesiynau ar themâu cerddorol, celf a chrefft, garddio, gemau, a sgyrsiau gan y gwasanaeth archifdy.

Mae’r adborth gan y tenantiaid a’r ysgol wedi bod yn wych ac mae’r budd i les tenantiaid wedi bod yn amlwg. Mae sawl tenant, er eu problemau iechyd neu anableddau wedi ffynnu – maen nhw yn dod yn fyw yn ystod y gweithgareddau a’r cymdeithasu gyda’r plant, sy’n gweld heibio’r gwahaniaeth oedran, yr anableddau a’r stigma. Yn ôl adroddiadau gan yr ysgol mae’r plant yn mwynhau cymaint nes eu bod wedi gwrthod gadael y bws ar un achlysur ar ôl cyrraedd yn ôl i’r ysgol am eu bod eisiau dychwelyd at eu ffrindiau yng Nghae Garnedd.

Y gobaith yw y bydd y prosiect yn cael ei werthuso gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gyda chais pellach wedi ei wneud am arian cymdeithasol Ewropeaidd gyda chymorth Dr Catrin Hedd a Phrifysgol Bangor. Mae peilot tebyg wedi’i gynnal yn ardal Nefyn rhwng yr ysgol gynradd yno a chartref henoed er mwyn cymharu ardal wledig a threfol. Yn dilyn gwerthusiad, y nod yw datblygu’r prosiect ar gyfer yr hir dymor fel y gall mwy o denantiaid hŷn fwynhau a chael budd o sesiynau gyda phlant ysgolion cynradd.