Gwaith tlodi tanwydd cymdeithas dai yn ennill cydnabyddiaeth mewn tair gwobr

Mae gwaith gan wardeiniaid ynni sy’n cynorthwyo yn erbyn tlodi tanwydd yng ngogledd Cymru wedi derbyn tair gwobr o ganmoliaeth.

Ariennir y cynllun gan Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd, Tai Gogledd Cymru, Cyngor Ynys Môn a Chartrefi Cymunedol Gwynedd.

Cydnabuwyd y tîm, sydd wedi arbed degau o filoedd o bunnoedd i filoedd o gartrefi, mewn tri chategori yng ngwobrau blynyddol Effeithlonrwydd Ynni Cymru.

Derbyniwyd y gymeradwyaeth am: gymorth i gwsmeriaid bregus, cymdeithas dai ranbarthol y flwyddyn; tra enwyd Sandra Kargin yng nghategori’r pencampwraig warden ynni.

Dechreuodd cynllun wardeiniaid ynni cymunedol nôl yn 2011, i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, diffyg gweithgarwch yn yr economi a lleihau carbon. Mae wardeniaid yn gweithio gyda phreswylwyr mewn cymunedau ledled gogledd Cymru i leihau costau ynni ac allyriadau carbon.

Llynedd, cynorthwywyd 187 o gwsmeriaid, gan arwain at ostyngiad o hyd at 9,350kg o co2 ac arbedion o hyd at 50 y cant ar filiau tanwydd.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnig cyfle i bobl ddi-waith i hyfforddi fel yr ymgynghorwyr effeithlonrwydd ynni.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Grŵp Cynefin, Carina Roberts, a fynychodd y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd: “Mae’r wardeiniaid ynni’n gweithio’n galed iawn, ac mae derbyn canmoliaeth mewn tri chategori gwahanol yn gamp a hanner. Rydym yn falch iawn eu bod wedi helpu cynifer o bobl i arbed arian ar eu biliau tanwydd.”

Roedd cynrychiolwyr wardeiniaid ynni Ieuan Davies, Ffion Owen, Jade Beales a Sandra Kargin gyda hi.

Daeth Sandra Kargin yn warden ynni yn 2014, yn dilyn cyfnod di-waith pan oedd hi wedi colli hyder ac yn ei chael hi’n anodd gadael ei chartref yng Nghaernarfon ar adegau.

Nawr mae Sandra, sydd hefyd yn denant Grŵp Cynefin, wedi helpu mwy na 1,800 o drigolion i leihau eu biliau, a mentora tri warden ynni dan hyfforddiant.

Mae’n darparu cyngor arbed ynni i denantiaid a thrigolion ledled gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â thimau cyd-warden ynni sydd wedi eu lleoli yng Nghaernarfon.

Gall trigolion Ynys Môn a Gwynedd gael rhagor o wybodaeth am effeithlonrwydd ynni, neu drefnu cyfarfod gyda warden trwy ymweld â grwpcynefin.org, neu ffonio 0300 111 2122.

Diwedd