Mae cynllun gofal ychwanegol sydd newydd agor yn Abergele, a gafodd gefnogaeth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn darparu cyfleusterau ardderchog ar gyfer y preswylwyr yn ôl y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.
Mae Cynllun Gofal Ychwanegol Hafod y Parc yn darparu byw’n annibynnol modern i bobl dros 60 oed ac a groesawodd y preswylwyr cyntaf ym mis Ebrill eleni. Mae’n cynnwys 49 o fflatiau hunangynhwysol ac erbyn hyn mae’r cynllun yn llawn.
Mi wnaeth y cynllun gwerth £10.7m elwa o £6.2m gan Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru gyda’r gweddill yn cael ei ariannu gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru.
Mae cyfleusterau Hafod y Parc yn cynnwys gofal 24 awr ar y safle a chymorth, tŷ bwyta, salon gwallt, ystafell hobïau ac ardal gardd patio.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae cynlluniau gofal ychwanegol yn caniatáu i bobl dros 60 oed fyw’n annibynnol tra’n derbyn gwasanaethaugan dtîm gofal profiadol sydd ar y safle 24 awr y dydd, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel.”
“Mae’r cyfleusterau yma yn Hafod y Parc yn ardderchog ac yn rhoi pob cyfle i breswylwyr fyw mor annibynnol â phosibl mewn amgylchedd cymunedol.”
“Mae’r prosiect hefyd wedi bod o fudd i’r gymuned yn ystod y broses adeiladu, gyda chyfleoedd ar gyfer cynlluniau prentis saer a lleoliadau gwaith.”
Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Gogledd Cymru:
“Mae Hafod y Parc yn ddatblygiad eithriadol y mae pawb ohonom yn hynod o falch ohono. Er mai dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr agorodd Hafod y Parc ei ddrysau, roedd y cynllun yn llawn yn syth, sy’n adlewyrchu safon y tai sydd ar gael yno a’r angen a’r galw clir am y cysyniad gofal ychwanegol o fyw.”
Cynllun Hafod y Parc yw’r pedwerydd cynllun gofal ychwanegol sy’n gweithredu yn Sir Conwy.