Gwobrwyo cymdogion da

Mae Tai Gogledd Cymru wedi dathlu ysbryd cymunedol gyda’u ‘Gwobr Cymdogion Da’ am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae’r gystadleuaeth boblogaidd yn talu teyrnged i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion.

Eglurodd Iwan Evans, y Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Roedd y nifer o enwebiadau yn uwch nag erioed wrth i gymdogion ddod at ei gilydd yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws, gan helpu ei gilydd mewn cyfnod o angen. 

Roedd ein cynlluniau Pobl Hŷn yn ei chael hi’n arbennig o anodd yn dilyn y cyfyngiadau a orfodwyd arnom eleni, ac mi wnaethon nhw helpu ei gilydd yn fawr iawn yn ystod yr amser hwn. Felly nid yw’n syndod bod y ddau enillydd yn dod o’n cynlluniau Gofal Ychwanegol. 

Rydym yn falch o ddatgelu mai enillwyr eleni yw Geoff Uttley o Lys y Coed a Jean Hayward o Hafod y Parc.”

Mae Geoff yn aelod gweithgar o gymdeithas preswylwyr y cynllun, sydd bob amser yn barod i gynnig help llaw i’w gyd-breswylwyr, o helpu i ailosod cetris inc i siopa am neges. Pan mae hynny’n cael ei ganiatáu, ef hefyd yw’r cyntaf i drefnu gweithgareddau yn y cynlluniau i godi calon. Pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio, trefnodd Geoff ddangosiad ffilm gyda phellhau cymdeithasol a roddodd hwb fawr i breswylwyr.

Mae Jean wedi cael ei disgrifio fel ‘gem’, ac mae wedi helpu llawer o breswylwyr Hafod y Parc, gan gynorthwyo gyda’u siopa a’u tasgau cyffredinol, yn ogystal â bod yn brysur iawn gydag ardal yr ardd, gan helpu i’w wneud yn lle braf i’r preswylwyr ymlacio ynddo.

Llongyfarchiadau Geoff a Jean ar ennill y gystadleuaeth hon a diolch yn fawr i chi am fod yn gymdogion mor dda.