Helpu’r digartref ym Mangor wrth i oerfel y gaeaf ddechrau brathu

Mae Hostel Santes Fair i’r digartref ym Mangor wedi lansio ei apêl Gaeaf blynyddol i gefnogi rhai sy’n cysgu allan yn y dref a’r cyffiniau wrth i’r tymor oer ddechrau. Ffeindiwch allan sut fedrwch chi helpu.

Mae’r hostel yn cynnig cymorth a chefnogaeth i ddynion a merched digartref lleol, gan ddarparu llety ar gyfer hyd at 13 o bobl. Mae Santes Fair bob amser yn llawn i’r ymylon ac mae’r hostel hefyd yn cefnogi pobl sy’n cysgu allan nad yw’n gallu cynnig lle dan do iddynt, gan ddarparu eitemau allweddol gan gynnwys sachau cysgu, pebyll, blancedi a dillad, sy’n hanfodol ar gyfer goroesi wrth i’r tywydd oer ddechrau brathu.

Er gwaethaf casglu cryn dipyn o bebyll a sachau cysgu o nwyddau a gafodd eu gadael ar ôl yng Ngŵyl Wakestock a Gŵyl Rhif 6 eleni mae’r hostel yn dal yn brin o rai eitemau hanfodol.

Dywedodd Rheolwr Cynllun Santes Fair, Rob Parry:

“Eleni rydym yn arbennig o brin o eitemau megis pebyll, sachau cysgu a blancedi. Rydym yn dibynnu ar roddion fel hyn i roi amddiffyniad i bobl rhag y tywydd gwael. Heb hyn, ni fyddem yn gallu helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.”

Ychwanegodd Rob:

“Mae croeso arbennig ar yr adeg hon o’r flwyddyn hefyd i bobl gyfrannu bwydydd tun a bwydydd sydd ddim yn ddarfodus. Rydym yn ddiolchgar am bob rhodd, waeth pa mor fawr neu fach ac mae pob eitem yn helpu.”

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu rhodd alw heibio Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon ym Mangor neu unrhyw un o Swyddfeydd Tai Gogledd Cymru ym Mangor neu Gyffordd Llandudno. Neu ffoniwch 01248 362211 i drafod ymhellach.