Her 40 mlynedd TGC yn codi pres i elusen

Mae tîm uchelgeisiol o bobl egnïol wedi cwblhau her 40/40 Tai Gogledd Cymru!

Ar ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf, cynhaliwyd pedwar digwyddiad ar draws y gymdeithas, i nodi ‘her 40/40’, gyda’r cyfan wedi ei gyd-drefnu gan Emma Williams o TGC.

Cymerodd dros 50 o staff Tai Gogledd Cymru ran yn y diwrnod, oedd yn cynnwys beicio 40 milltir, taith gerdded 10 milltir a rhedeg 10 milltir, a hefyd taith gerdded un filltir i deuluoedd. Fe gafodd cyfanswm o £1900 ei gasglu ar gyfer yr elusen a ddewiswyd gan y gymdeithas, sef Hosbis Plant Tŷ Gobaith.

Dywedodd Paul Diggory, fu’n cymryd rhan drwy redeg y 10 milltir:

“Roeddem wedi dewis gwneud y digwyddiad yn un i’r gymdeithas gyfan fel bod pawb yn gallu cymryd rhan, ac wedi rhoi dewis o wahanol heriau chwaraeon. Rydan ni wedi cael llawer o gefnogaeth oddi wrth ein staff a hefyd ein noddwyr, ac yn hynod falch o’r cyfanswm ardderchog o arian sydd wedi cael ei gasglu!”

Cychwynnodd y beicwyr am 9yb o’r Pafiliwn yn y Rhyl, y cerddwyr am 11yb o gartref gofal ychwanegol Llys y Coed, y rhedwyr am 1yp hefyd o Lys y Coed, a’r daith gerdded i’r teulu am 2yp ar gyrion Bangor.

Fe ddaeth y grŵp at ei gilydd ddiwedd y prynhawn ym Mhwll Nofio Bangor, lle’r oedd cyfle i gael cawod cyn mynd i Lys y Coed am farbeciw gwych wedi’i drefnu gan reolwr y cynllun, Cheryl Haggas a’r staff arlwyo yno.

Ac fe ychwanegodd Paul:

“Roedd hwn nid yn unig yn wych ar gyfer codi arian ond hefyd yn gyfle i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 40 fel cymdeithas, a pha well ffordd o ddathlu na fel hyn! Da iawn i bawb fu’n cymryd rhan.”