Hwb swyddi i Ogledd Cymru wrth i’r tîm cynnal a chadw dyfu

Mae tîm cynnal a chadw mewnol Tai Gogledd Cymru wedi cynyddu yn dilyn ychwanegu 10 recriwt medrus newydd wrth i wasanaethau ehangu i gynnwys cynnal a chadw cynlluniedig

Yr wythnos yma mae’r tîm newydd sy’n cynnwys Swyddog Cyswllt Tenantiaid a rolau masnach amrywiol yn derbyn hyfforddiant ac ymsefydlu gan ddechrau gweithio yng nghartrefi tenantiaid yn gynnar ym mis Tachwedd.

Mae’r dull gweithredu mewnol yma wedi derbyn croeso gan denantiaid sydd wedi cynnig adborth a chefnogaeth cadarnhaol i’r tîm, gan annog y sefydliad i ddatblygu’r tîm cynnal a chadw ymhellach. Bydd y tîm newydd yn cyflenwi gwaith cynlluniedig yn cynnwys gosod ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd.

Lansiodd Tai Gogledd Cymru ei dîm cynnal a chadw mewnol rhyw dair blynedd yn ôl yn dilyn tranc cwmni adeiladu Rok, a fu’n cyflawni llawer o waith cynnal a chadw ymatebol a chynlluniedig y sefydliad. Wrth lansio’r tîm cafodd criw o wyth o gyn-weithwyr lleol Rok eu cyflogi, nifer sydd bellach wedi tyfu i 26.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi gyda Thai Gogledd Cymru – Mike Bernard:

“Mae ein gwaith cynnal a chadw mewnol wedi bod yn llwyddiant mawr i Dai Gogledd Cymru. Mae’r tenantiaid wedi croesawu’r tîm Cynnal a Chadw yn fawr ac mae’r adborth wedi bod yn wych. Mae hyn yn nodi’r cam nesaf yn ein taith ac rydym yn falch o groesawu rhai crefftwyr hynod fedrus a gwybodus i weithio yn Nhai Gogledd Cymru.”

Ychwanegodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym wedi tyfu’r tîm mewn ffordd organig a chynaliadwy ac rydym wedi cysylltu’n agos gyda’n tenantiaid er mwyn sicrhau bod gennym y dull gweithredu a’r model cywir ar waith. Bydd llawer mwy o’n gwasanaethau cynlluniedig yn awr yn cael eu cyflenwi gan ein tîm ein hunain, sy’n golygu y bydd pobl leol yn cyflenwi gwasanaethau lleol o fewn ein cymunedau a’n cartrefi.”

Dywedodd Lynne Williams, Pennaeth Personél, bod yr holl gyfleoedd recriwtio yn cael eu hysbysebu ar wefan y sefydliad a Chanolfan Byd Gwaith. Ychwanegodd y bydd nifer o swyddi eraill ar draws y sefydliad yn cael eu hysbysebu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Mae’r e dîm cynnal a chadw wedi symud yn ddiweddar i adeiladau newydd yn Adeilad Hadley yng Nghonwy.