Lleisiau Lleol yng Nghonwy

Mae Tai Gogledd Cymru yn ymuno â dwy gymdeithas tai arall i gymryd rhan ym menter Conwy gyda’n Gilydd. Bwriad y fenter yw ceisio rhoi cyfle i denantiaid ‘anodd eu cyrraedd’ leisio barn ynglŷn â gweithgarwch cyrff a gwasanaethau cyhoeddus ar draws Sir Conwy.

O dan y prosiect ehangach, mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CGGC) wedi derbyn £842,999 o raglen Lleisiau Lleol y Gronfa Loteri Fawr er mwyn helpu cymunedau i ddylanwadu ar wasanaethau, polisïau a phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt fel bod eu hanghenion yn cael eu diwallu’n well. Mae hwn yn un o bum prosiect sydd bellach ar y gweill.

Mae Tai Gogledd Cymru yn gweithio’n agos gyda Chartrefi Conwy, a Chlwyd Alyn. Gyda’i gilydd, bydd y grŵp yn rheoli cyfres o ddigwyddiadau ar draws y sir gan wahodd siaradwyr allweddol a darparwyr gwasanaethau i fod yn bresennol, gan greu cyfleoedd ymgysylltu ac ymgynghori.

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch ni ar 01492 572727.