Mae Tai Gogledd Cymru wedi cynnal ei Diwrnod Hwyl yr Haf blynyddol gyda thenantiaid o bob cwr o Wynedd a Chonwy yn dod ynghyd i gymryd rhan yn y diwrnod cymunedol am ddim .
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ysgol Morfa Rhianedd, Ffordd Cwm, Llandudno, lle cafodd y gwesteion fwynhau llu o weithgareddau yn cynnwys paentio wynebau, celf a chrefft, helfa drysor, ardal chwarae a gardd. Bu cymeriadau Disney yn diddanu’r plant a chafwyd cerddoriaeht fyw gan grŵp lleol y Ghostbuskers.
Cafodd cinio am ddim a chludiant am ddim eu trefnu i hebrwng preswylwyr yn ôl a blaen o’u cartrefi ac fe wnaeth yr haul dywynnu drwy’r prynhawn ar gyfer yr holl westeion.
Dywedodd Iwan Evans o Tai Gogledd Cymru:
“Rydym wedi cael ymateb rhagorol gan denantiaid a ddaeth draw i fwynhau’r diwrnod sydd yn wych. Mae hwn yn ddiwrnod pwysig yng nghalendr Tai Gogledd Cymru. Mae nid yn unig yn ddiwrnod llawn hwyl, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i bawb sgwrsio â phobl o fewn eu cymunedau ac o drefi eraill cyfagos.”
Roedd aelodau o dîm Tai Cymru Gogledd hefyd wrth law i gynnig cymorth a chyngor ynghylch unrhyw agwedd o’u tenantiaeth. Roedd gwybodaeth o sefydliadau partner eraill, gan gynnwys yr Undeb Credyd, Crest, Bus Stop ac ailgylchu Cyngor Conwy hefyd ar gael ar y diwrnod.