Llwyddiant cynaladwyedd Arian i TGC

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cael cydnabyddiaeth trwy dderbyn gwobr Arian SHIFT yn asesiad cynaladwyedd  2016, cynllun gwobrau amgylcheddol nodedig.

Mae cynllun meincnodi SHIFT (Mynegai Cartrefi Cynaliadwy ar gyfer Yfory), a gymeradwywyd gan y llywodraeth, yn dadansoddi perfformiad amgylcheddol cymdeithasau tai.

Mae’r broses asesu yn cynnwys pob agwedd ar weithrediad Tai Gogledd Cymru gan gynnwys swyddfeydd, prynu, adeiladu o’r newydd, eiddo presennol a mwy.

Cafodd Tai Gogledd Cymru ei hasesu gyntaf yn 2014. Mae bod yn rhan o SHIFT yn arddangos ein hymrwymiad i chwarae rôl weithredol mewn creu tai, busnes a bywydau gwell i bobl.