Llwyddiant her O Gwmpas y Byd mewn 80 diwrnod

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cwblhau eu her ‘O Gwmpas y Byd mewn 80 diwrnod’ yn llwyddiannus gyda 3 diwrnod a hanner i’w sbario ym mis Ionawr.

Ddiwedd mis Hydref lansiodd TGC yr her lles a ffitrwydd ar gyfer staff, ffrindiau a theulu, gyda’r nod o gerdded, beicio neu redeg 24,901 milltir mewn 80 diwrnod. Mi wnaeth y gymdeithas dai nid yn unig lwyddo i gyrraedd yn ôl i Gyffordd Llandudno yn ddiogel ar ôl teithio’r byd, mi wnaethon nhw deithio 2,150 milltir arall, gan orffen ym Marrakesh ym Moroco.

Dywedodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid a phennaeth y Panel Elusennau:

“Wrth ddewis yr her roeddem am gyflawni dau beth. Roeddem am helpu iechyd a lles staff, a oedd fel pawb arall yn ei chael hi’n anodd yn ystod y pandemig. Yn ail, roeddem am godi arian at elusen. Roeddem o’r farn fod hwn yn syniad perffaith. Yn ogystal â chymryd rhan mae staff hefyd wedi casglu arian nawdd a fydd yn mynd at elusen eleni, Awyr Las.”

“Mae’r her wedi mynd yn rhyfeddol o dda, yn well nag y gallem erioed fod wedi’i freuddwydio ac rwyf mor falch o bawb sydd wedi cymryd rhan. Mae wedi dod â phobl ynghyd mewn ffordd arbennig ac wedi dangos faint o deulu ydi TGC mewn gwirionedd. Rydyn ni wir yn byw mewn rhan hyfryd o’r byd ac rydw i wedi cael pleser aruthrol wrth weld gwahanol rannau o ogledd Cymru.” 

Mae preswylwyr yn rhai o’n cynlluniau hefyd wedi dangos diddordeb brwd yn yr her, ac yn Hafod y Parc, ein cynllun Gofal Ychwanegol yn Abergele, yn benodol.

Eglurodd Shelley Hughes, Rheolwr Cynllun Hafod y Parc:

“Trwy gydol yr her mi fyddai’r preswylwyr yn gofyn i mi bob dydd pa wlad roedden ni wedi’i chyrraedd, ac mi wnaeth hynny fy annog yn fawr i wneud fy siâr i o’r milltiroedd. Roedd yr her hefyd yn rhoi rhywbeth iddyn nhw ganolbwyntio arno bob dydd, sy’n gysur mawr iddyn nhw yn ystod y pandemig a’i gyfyngiadau.”

Bydd yr holl arian nawdd a gesglir yn cael ei roi i elusen eleni, Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru.

Yn awyddus i beidio â cholli momentwm, mae gan TGC her arall ar y gweill a byddant yn dechrau arni ym mis Chwefror.