Llwyddiant sesiwn blasu dringo yn arwain at gymhwyster i denantiaid

Mae tenantiaid Tai Gogledd Cymru wedi ennill cymhwyster Lefel 1 NICAS (Y Cynllun Gwobr Dringo Dan Do  Cenedlaethol) fel rhan o’u prosiect Agor Drysau newydd. 

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru, Partneriaeth Awyr Agored a Chanolfannau Conway Ynys Môn. Datblygwyd y prosiect gyda’r bwriad o roi profiadau o weithgareddau awyr agored o ansawdd uchel i denantiaid, gyda’r opsiwn i ennill cymhwyster a gwella cyfleoedd cyflogadwyedd yng ngweithlu’r sector awyr agored. 

Derbyniodd y prosiect gyllid o gronfa Gwynt y Môr fis Medi 2016, a dringo oedd y gweithgaredd gyntaf a gynigiwyd i denantiaid yng Nghonwy. 

Mynychodd y cyfranogwyr gwrs unwaith yr wythnos am 8 wythnos, yn dechrau ar wal fach yng Nghanolfan Conway Ynys Môn, gan symud ymlaen yn raddol at waliau dringo dan do mwy, ac yn y pendraw, tu allan! 

Gwelodd Sally Ward o Ganolfan Conway Ynys Môn, a arweiniodd y sesiynau dringo, y gwahaniaeth yn uniongyrchol drwy gydol y sesiynau:

“Rwy’n teimlo’n angerddol am ddysgu pobl i ddringo ac i fwynhau’r awyr agored, ac mae rhannu’r angerdd hwn gyda phobl wedi bod yn ddiddorol iawn.” 

“Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi cyfle i bobl efallai na fyddent fel arfer yn cael cyfle o’r fath i drio rhywbeth newydd yn yr awyr agored. Mae’r cyfranogwyr a achubodd ar y cyfle hwn yn amrywio o bobl nad oeddent yn gwneud dim ymarfer corff, i bobl oedd wedi trio dringo pan oeddent yn ifanc, ac yn amrywio o ran oed o bobl yn eu 20au i’w 50au.” 

“Rwy’n credu i bawb synnu eu hunain o’r dechrau, wrth iddynt fedru dringo pethau nad oeddent yn meddwl oedd yn bosib ar un adeg, ac yn eu herio eu hunain i fentro, gan ddangos gwir ymroddiad a dyfalbarhad, ond yn bwysicach yn cael hwyl! Roeddwn i’n teimlo’n falch ac yn freintiedig i wylio eu taith o’r diwrnod cyntaf i’r wythfed diwrnod, gallwn ddweud yn hapus bod y bobl hynny a gwblhaodd y cwrs nawr yn ddringwyr! Mae eu hyder wedi codi, ac nid gyda’r dringo a chredu ynddynt eu hunain yn unig, ond yn gymdeithasol hefyd.”

Mae un o’r tenantiaid a gymrodd rhan yn y cwrs yn teimlo iddo elwa mewn sawl ffordd:

“Rwyf wedi mwynhau’r cwrs hwn yn fawr. Doeddwn i erioed wedi dringo cyn hynny felly roedd hi’n wych dysgu pethau newydd.”

“Rwyf wedi elwa llawer o’r cwrs; nid yn unig rydw i wedi dysgu sgiliau newydd ond rwyf hefyd wedi cyfarfod â phobl neis. Ac rwyf wedi gwella fy ffitrwydd – mantais ychwanegol!”

Owain Williams – Llwybrau i Gyflogaeth, Partneriaeth Awyr Agored

“Mae newid mawr wedi bod o’r dechrau i’r diwedd yn y bobl a gymrodd rhan. Mae’r grŵp a ddechreuodd ar y cwrs dringo nawr yn bobl annibynnol, wybodus ac yn awyddus i gael rhagor o heriau.”

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid yn Tai Gogledd Cymru:

“Roedd hi’n bleser gweld hyder y cyfranogwyr yn codi dros yr 8 wythnos a’u gweld yn dysgu sgiliau newydd. Rwy’n falch eu bod wedi datblygu a dangos cymaint o ddiddordeb i ddringo.”

Y newyddion gwych yw bod y cyfranogwyr wedi mwynhau’r cwrs i’r fath raddau bod arnynt eisiau parhau i ddringo.

“Rydyn ni’n falch iawn eu bod wedi datblygu awch i ddringo, dyna beth yw nod rhaglenni fel hyn. Rydym wedi trefnu sesiynau pellach iddynt er mwyn iddynt allu datblygu ymhellach.”

Nid dringo yw’r unig weithgaredd a gynigir i denantiaid TGC fel rhan o’r prosiect Agor Drysau.

Esboniodd Iwan:

“Y sesiwn nesaf sydd eisoes ar waith yw cerdded bryniau; does dim angen offer drud i gerdded, dim ond pâr o esgidiau a chot, felly rydyn ni’n credu y gallai hwn apelio at unrhyw un.”

“Mae hefyd gyda ni sesiynau canŵio, padlo a beicio mynydd ar y gweill. Os ydy hyn o ddiddordeb i unrhyw un o’n tenantiaid yng Nghonwy, cysylltwch â ni.”

Mae Sally yn falch bod cyfranogwyr y sesiynau dringo eisoes wedi cofrestru i gerdded bryniau,

“Roedd hi’n bleser pur gweld rhai o’r cyfranogwyr yn cofrestru ar gyfer y cwrs nesaf, cerdded bryniau. Rwy’n edrych ymlaen at weld pa newidiadau sydd ar y gweill i’r bobl hynny sy’n cymryd rhan, ac efallai cyfarfod â phobl ar y bryniau neu ar y wal ddringo!”