Mae Cystadleuaeth garddio TGC yn nol!

Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth garddio blwyddyn ddiwethaf rydym yn nol am yr ail flwyddyn!

Rydym yn galw holl arddwyr brwd i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth garddio. Mae’r catgoriau wedi newid rywfaint blwyddyn yma. Y categorïau yw:

  • Yr Ardd Orau
  • Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf i denantiaid sydd wedi gwella eu gardd (bydd angen lluniau o’r ardd fel yr oedd yn arfer edrych)
  • Yr ardd potiau orau Potiau, basgedi, bocsys ffenestri ac ati
  • Gardd/gofod cymunedol taclusa

Y dyddiad cau yw 23 Mehefin 2017 a disgwylir i’r beirniadu digwydd ym mis Gorffennaf 2017.

Lawr lwythwch a chwblhewch y ffurflen gais yma.

Os hoffech gael mwy o fanylion am y gystadleuaeth yna cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected].