Man gwyrdd man draw i Tai Gogledd Cymru

Mae Tai Gogledd Cymru ar fin lansio tîm cynnal tiroedd mewnol gan greu swyddi i chwech o bobl leol.

Caiff ‘Cribiniau ac Ystolion’ ei lansio ym mis Hydref 2014 a bydd yn darparu ystod o wasanaethau garddio a chynnal tiroedd ac hefyd gwasanaethau cynnal a chadw eraill i dai ac eiddo tenantiaid y gymdeithas ledled Gogledd Cymru.

I gychwyn, caiff chwe swydd eu creu gan gynnwys dau arweinydd tîm, prentis, hyfforddai a dau weithiwr tymhorol – y cyfan yn gweithio o swyddfa Adeilad Hadley yng Nghonwy.

Bydd ‘Cribiniau ac Ystolion’ yn anelu at recriwtio pobl sy’n rhan o’r gymuned leol, gan gynnwys tenantiaid Tai Gogledd Cymru. Penodir arweinyddion tîm a fydd yn gweithio’n agos gyda gweithwyr newydd ac yn darparu gwasanaeth mentora, cefnogi a hyfforddi er mwyn sicrhau bod gweithwyr sydd efallai erioed wedi gweithio o’r blaen, neu sydd wedi bod yn ddiwaith am gyfnod o amser, yn cael y sgiliau ymarferol a’r sgiliau meddal i’w helpu i lwyddo yn y man gwaith.

Bydd cyfnod o hyfforddi, datblygu a derbyn cefnogaeth yn arwain at y posibilrwydd o waith hir dymor a bydd hyn yn helpu i drawsnewid bywydau pobl leol. Bydd y tîm yn aml yn gweithio o fewn y gymuned lle byddant yn byw, gan ddarparu gwasanaeth pwysig ar ran y gymdeithas.

Mae TGC wedi ymrwymo i darparu gwell gwasanaeth i denantiaid. Trwy dderbyn darpariaeth uniongyrchol gan y gymdeithas, gall tenantiaid ddisgwyl agwedd sydd yn ffocysu mwy ar y cwsmer. Llwyddiant y cam o sefydlu timau cynnal mewnol yn hytrach na defnyddio contractwyr allanol sydd wedi annog TGC i gymryd y ffordd hon ymlaen.

Dywedodd Stephanie Clueit, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Tai Gogledd Cymru:

“Mae hwn yn gam gwirioneddol bositif gan y gymdeithas. Nid yn unig rydym yn creu swyddi hir dymor ar gyfer pobl leol ond rydym yn darparu’r gwasanaeth hwn yn uniongyrchol – sydd yn ein barn ni yn fanteisiol iawn. Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn yr adborth positif gan ein tenantiaid ers i ni gychwyn darparu’r gwasanaeth yn fewnol. Rydym am i ‘Cribiniau ac Ystolion’ sefyll ochr yn ochr gyda’n timau cynnal a chadw gan sicrhau’r un safon uchel o wasanaeth”

Ychwanegodd Stephanie:

“Mae hwn yn fusnes cynaliadwy ym mhob agwedd ac yn ymgorfforiad o ethos a gweledigaeth TGC. Buasem yn hoffi annog pobl i gysylltu â ni trwy ymweld â’n gwefan www.nwha.org.uk i gael mwy o wybodaeth am y cyfleoedd hyn a chyfleoedd eraill sydd gan Tai Gogledd Cymru i’w cynnig. Gall tenantiaid gael rhagor o wybodaeth hefyd yn ein Diwrnod Hwyl ar yr 20fed o Awst yn Ysgol Morfa Rhianedd, Ffordd Cwm, Llandudno.”