Mwy o alw am Fareshare

Mae partneriaeth Tai Gogledd Cymru â phrosiect bwyd Gogledd Cymru Fareshare yn mynd o nerth i nerth wrth i fwy o ddefnyddwyr gwasanaeth a thenantiaid gael eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Hyd yn hyn, mae’r cynnig Fareshare Gogledd Cymru wedi ei gyfyngu i’r rheiny sy’n byw mewn hosteli a thenantiaid camu ymlaen Tai Gogledd Cymru, fodd bynnag, mae hyn ar fin newid wrth i’r bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad dyfu. O dan gynlluniau newydd cyffrous, mae ardal storio bwyd wedi cael ei sefydlu yn barod ym mhencadlys y sefydliad yng Nghyffordd Llandudno lle gall bwyd a gesglir gan Fareshare Gogledd Cymru gael ei gadw, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i denantiaid wrth ddewis bwyd.

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd tenantiaid Tai Gogledd Cymru yn gallu adolygu’r ystod o fwydydd sydd ar gael drwy wefan Tai Gogledd Cymru a rhoi archeb dros y ffôn neu yn electronig. Yna gellir gwneud trefniadau ar gyfer casglu’r bwyd mewn man codi dynodedig .

Dywedodd Brett Sadler o Tai Gogledd Cymru:

“Ynghyd â’n partneriaid Fareshare Gogledd Cymru, rydym yn ceisio canfod ffyrdd newydd o alluogi ein tenantiaid i gael mynediad i’r cynnig Fareshare. Mae llawer o bobl yn wynebu tlodi ar hyn o bryd a gall mentrau bwyd fel hyn helpu ein tenantiaid i brynu bwydydd o ansawdd am brisiau hynod o resymol ac ar yr un pryd ailddosbarthu bwyd fyddai fel arall wedi cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.”

Mae Tai Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Fareshare Gogledd Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae FareShare Gogledd Cymru yn gweithio i achub bwyd sydd o fewn y dyddiad defnyddio o safleoedd tirlenwi drwy weithio gyda chyflenwyr bwyd lleol a chenedlaethol ac ailddosbarthu’r bwyd sydd dros ben i gymuned Gogledd Cymru. Eu nod yw helpu pobl sy’n debygol o wynebu caledi bwyd.

Mae Tai Gogledd Cymru yn darparu bocsys bwyd ac eitemau unigol i denantiaid sydd yn yr angen mwyaf a hynny am bris gostyngol sylweddol (e.e. gwerth £25 o fwyd am gyfraniad o £5) a hyd yma dosbarthwyd 320 o focsys bwyd yn chwe mis cyntaf y prosiect, sy’n cyfateb i achub tair tunnell o fwyd o safleoedd tirlenwi.

Dywedodd Sharon Jones, Prif Weithredwr Crest Co-operative, sy’n rhedeg FareShare Gogledd Cymru:

“Rwyf wrth fy modd bod cymaint o denantiaid wedi elwa o wasanaeth FareShare Gogledd Cymru. Drwy weithio gyda Tai Gogledd Cymru, rydym yn gallu cefnogi tenantiaid, sy’n cael trafferth ymdopi gyda chost gynyddol biliau bwyd.”

“Rydym yn credu na ddylai bwyd da gael ei wastraffu ac y dylid ei ddosbarthu i bobl sydd ei angen,” ychwanegodd.”