Mwy o dai un ystafell wely diolch i gynllun tai newydd

Mae’r angen cynyddol am dai gydag un ystafell wely, sydd wedi ei ddwysau gan y ‘dreth ystafell wely’ a gyflwynwyd llynedd, wedi sbarduno datblygiad o naw cartref newydd yn Llandudno.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cael gafael ar safle tir llwyd ar Ffordd Bod-Hyfryd, Llandudno, gan ddymchwel yr adeilad gwag oedd yno a chreu’r datblygiad newydd o 9 fflat un ystafell wely o’r enw ‘Y Stablau’.

Mae Deddf Diwygio Lles 2013 yn golygu y bydd unrhyw berson neu bersonau sy’n tan-feddiannu eu tai cymdeithasol o un ystafell wely neu fwy yn gweld gostyngiad o 14% neu 25% yn eu budd-dal tai. Mae hyn yn ychwanegu at y galw am fwy o dai un ystafell wely. Wedi ei gwblhau, bydd ‘Y Stablau’ yn helpu i gyflenwi’r angen cynyddol hwn, ac mae cymysgedd o bobl sengl a chyplau – rhai ohonynt angen cymorth i fyw’n annibynnol – wedi cael eu dewis fel tenantiaid ar gyfer y cartrefi newydd hyn.

Mae’r cynllun wedi ei ddatblygu yn unol â Lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy, sy’n golygu lefelau inswleiddio uchel, lleihau defnydd ynni a lleihau biliau ynni cyfartalog.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae gofyn clir am y math hwn o eiddo, ac er nad yw’r un o denantiaid y Stablau wedi eu symud oherwydd effaith y dreth ystafell wely, rydym yn edrych ar nifer o safleoedd eraill ar hyd a lled gogledd Cymru lle gallwn ail-ddatblygu neu adeiladu cynlluniau tebyg.”

“Rydym yn dal i geisio dyrannu ein heiddo yn unol â chriteria’r dreth ystafell wely, ond rydym yn gwneud cynnydd ac wedi gweld lleihad yn y nifer o denantiaid sy’n tan-feddiannu – o 309 achos ym mis Ebrill i 268 heddiw. Ychydig dros 10% o’n tenantiaid sy’n tan-feddiannu eiddo erbyn hyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda nhw er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r opsiynau sydd ar gael iddynt, a’u bod yn cael y cyfle gorau i dalu eu diffyg mewn rhent wythnosol.”

Ychwanegodd Paul:

“Fel cymdeithas tai, mae tan-feddiannu yn cael effaith niweidiol ar ein gallu i rentu eiddo, yn benodol fflatiau dwy ystafell wely i fyny grisiau, a thai pâr tair ystafell wely. Mae rhai tai yn anodd i’w rhentu erbyn hyn, un ai oherwydd nifer yr ystafelloedd gwely neu’r lleoliad. Mae’n sefyllfa anodd ond rydym yn cadw llygad manwl arni.”