Newid ein ffordd o weithio

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru eisiau bod yn flaengar wrth roi gwasanaeth cynaliadwy sy’d wedi’i seilio ar anghenion cwsmeriaid, drwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a dulliau newydd o weithio. I sicrhau ein bod yn gwneud hyn, rydym wedi lansio rhaglen ‘Newid ein ffordd o weithio’.

Fel rhan o’r rhaglen rydym yn anelu at yr isod:

  • Deall ein cwsmeriaid yn well, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau gwell.
  • Cynyddu effeithiolrwydd staff drwy weithio symudol.
  • Cynyddu’r nifer o wasanaethau ar-lein sydd ar gael, gan ganiatáu i ni gynnig gwasanaethau cost effeithiol a hawdd i’w cyrraedd.
  • Cynyddu ein hymwneud â’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid drwy gyfryngau cymdeithasol.
  • Lleihau ein defnydd o bapur.
  • Rheoli ein ffeiliau electronig yn well.
  • Parhau i ddatblygu ein darpariaeth TG yn y dyfodol.
  • Ceisio gwella beth a wnawn drwy’r amser.

Am fwy o wybodaeth ar ‘Newid ein ffordd o weithio’ cysylltwch ag: [email protected] neu ffoniwch Andrea Williams ar 01492 572727.