Newid yn ein gwasanaethau trwsio oherwydd Coronafeirws
Oherwydd yr achosion o coronafeirws byddwn ond yn gwneud gwaith brys a gwasanaethu nwy blynyddol ar hyn o bryd. Mae’n ddrwg gennym am yr aflonyddwch hwn yn ein gwasanaeth arferol; rydym wedi cymryd y penderfyniad yma er mwyn eich amddiffyn chi, ein cydweithwyr a’r gymuned ehangach rhag y risg o ledaenu’r Coronafeirws.
Mae eich diogelwch chi a diogelwch ein cydweithwyr o’r pwys mwyaf i ni. Hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd mesurau priodol i’ch cadw chi a’n cydweithwyr yn ddiogel yn ystod yr ymweliadau yma.
Beth yw gwaith trwsio brys?
- Colli pŵer yn llwyr
- Goleuadau cymunedol ddim yn gweithio
- Eiddo sydd ddim yn ddiogel
- Dim dŵr poeth
- Toiled neu ddraen wedi blocio
- Dim gwres
- Larwm tân ddim yn gweithio
- Materion ynghylch adeilad yr eiddo sy’n peri pryder diogelwch
- Dŵr yn gollwng yn ddireolaeth
- Y system drws mynediad ddim yn gweithio
Bydd y gwaith trwsio yma yn eich cadw’n ddiogel yn eich cartref yn ystod argyfwng.
Mae’n ddrwg gennym na allwn mynychu gwaith trwsio heblaw mewn achos o argyfwng.
Ond os gwelwch yn dda cysylltwch â ni efo’r atgyweirion er mwyn i ni roi’r gwaith yn yr amserlen pan fyddwn yn gallu. Rydym yn deall bod hyn yn anghyfleus. Fodd bynnag, rydym yn dilyn cyngor y Llywodraeth i leihau cyswllt er mwyn leihau lledaeniad y feirws a dargyfeirio’r holl adnoddau sydd ar gael i wiriadau nwy a thrydan blynyddol a gwaith trwsio brys, pan fydd pobl ei angen fwyaf.
Os oes gennych waith trwsio sydd ddim yn waith argyfwng wedi’i drefnu yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cysylltu â chi i ganslo’r trefniant ac aildrefnu apwyntiad ar adeg sy’n addas i chi.
Byddwn yn ailddechrau ein gwasanaeth trwsio arferol cyn gynted ag y gallwn. Cadwch lygad ar ein gwefan www.nwha.org.uk neu Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf.
Rydym yma i’ch cefnogi chi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Cysylltwch â ni ar 01492 572727 neu anfonwch e-bost at [email protected].