Newidiadau i’r gwasanaeth yn ystod cyfnod clo Lefel 4
Yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru am y cyfnod clo lefel 4, rydym wedi adolygu y gwasanaethau y medrwn eu cynnig.
O Dydd Llun, 21ain o Ragfyr 2020:
- Byddem ond yn gwneud atgyweiriadau sydd yn argyfwng
- Bydd archwiliadau sy’n ymwneud a diogelwch yn dal i gymryd lle
- Bydd gwaith tu allan yn dal i gymryd lle ble mae’n ddiogel i wneud hyn
- Bydd gwaith ar ein eiddo gwag yn parhau fel eu bod yn barod ar gyfer ein tenantiaid newydd
Byddem yn adolygu y gwaith sydd wedi ei gynllunio ar gyfer yr wythnos yma ac yn ail-drefnu lle fydd angen. Byddem yn cysylltu gyda chi os yw hyn yn eich effeithio. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster y bydd hyn yn naturiol yn ei greu i chi.
Byddem yn adolygu y sefyllfa yn reolaidd gan sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda canllawiau Llywodraeth Cymru.