Nid cyfarfod cyffredinol blynyddol cyffredin

Cynhaliodd Tai Gogledd Cymru ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gyfer 2014, gan ddefnyddio digwyddiad blynyddol eleni i nodi pen-blwydd y gymdeithas yn 40 oed.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn Glasdir, Llanrwst, ac roedd y digwyddiad i ‘ddathlu’r deugain’ yn canolbwyntio’n arbennig ar bwysigrwydd parhaus tai cymdeithasol gydag areithiau ysbrydoledig gan y siaradwyr gwadd, y ddau ohonynt yn ffigurau arloesol o fewn y sector.

Rhannodd Tom Murtha a Michala Rudman eu meddyliau, eu profiad a’u barn ar dai cymdeithasol a’u pwysigrwydd o ran llunio bywydau unigolion a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Michala yw Arweinydd Bwrdd CIH Cymru ar gyfer Dysgu a Datblygu ac roedd yn allweddol wrth lansio ymgyrch Sgwrs Cartrefi Cyngor er mwyn herio delwedd negyddol tai cymdeithasol ar y cyfryngau.

Mae Tom Murtha yn Gadeirydd HACT a Phrif Weithredwr grŵp tai a gofal Midland Heart sy’n cynnal 32,000 o gartrefi. Fel ymgyrchydd brwd yn ei ddyddiau fel myfyriwr a rhywun wnaeth brofi digartrefedd yn ei arddegau, mae Tom wedi bod yn flaenllaw iawn yn ymgyrch SHOUT – mudiad sy’n ymdrin â thai cymdeithasol o dan fygythiad a lansiwyd yn swyddogol ym mis Mehefin.

Daeth cyfeillion, staff, partneriaid a rhanddeiliaid Tai Gogledd Cymru ynghyd ar gyfer y digwyddiad a oedd yn nodi 40 mlynedd y Gymdeithas, gyda chyflwyniad a ffilm fer oedd yn cynnwys cyfraniad gan un o aelodau gwreiddiol y bwrdd, sef Alice Robinson.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae’n wych gallu dathlu ein pen-blwydd yn 40 oed yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac wrth roi cydnabyddiaeth deilwng i’n gorffennol, rydym hefyd yn edrych ar y materion sy’n effeithio arnom heddiw a phwysigrwydd tai o ansawdd da a’r effaith a gaiff hynny. “