Niferoedd da yn mynychu diwrnod agored cyfleoedd cyflogaeth NWH

Dywed Tai Gogledd Cymru fod nifer dda o bobl wedi mynychu diwrnod agored cyfleoedd cyflogaeth cyntaf erioed y sefydliad.

Cynhaliwyd y diwrnod agored mewn dau leoliad, sef swyddfa TGC ym Mhlas Blodwel yng Nghyffordd Llandudno a swyddfa’r sefydliad yn Stryd y Deon ym Mangor, a dywedwyd bod dros 100 o bobl wedi galw heibio i gael gwybod mwy am y swyddi sydd ar gael yn TGC ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Dywedodd Lynne Williams, Pennaeth Personél:

“Roeddem eisiau i bobl wybod am yr amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth sydd gennym i’w cynnig yma yn Tai Gogledd Cymru. Roedd gennym nifer o gydweithwyr wrth law ar y diwrnod i rannu eu profiadau o weithio yn Nhai Gogledd Cymru mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol.”

Yn ogystal â darparu gwybodaeth am swyddi gwag, roedd cyfle hefyd i gael cyngor gan Tai Gogledd Cymru hefyd ar sut i gwblhau ceisiadau, egluro mwy am bolisi iaith Gymraeg y sefydliad a rhoi cipolwg ar y manteision y mae’r sefydliad yn eu cynnig i’w weithwyr.

Ychwanegodd Lynne:

“Rydym yn sefydliad sy’n tyfu ac mae gennym nifer o swyddi gwag ar hyn o bryd gyda mwy i ddilyn yn y dyfodol. Byddwn yn gofyn am adborth gan y bobl a fynychodd ein Diwrnod Agored er mwyn gallu cynllunio ar gyfer digwyddiadau pellach ond yn y cyfamser, byddwn yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw swyddi gwag sydd gennym yn y dyfodol.”

Gall unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am TGC fynd i www.nwha.org.uk. Os hoffech gael gwybod am unrhyw swyddi gwag yn y dyfodol, yna anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch Personél ar 01492 563226.