O Amgylch y Byd Mewn 80 Diwrnod ar gyfer Awyr Las

Wrth i ni gynefino â bywyd o weithio gartref, mae codi arian wedi profi’n dipyn mwy o her, ond nid yw hynny wedi rhwystro Tai Gogledd Cymru. Maen nhw bob amser yn barod am her … ac maen nhw wedi dewis tipyn o her!

Ar ddiwedd mis Hydref lansiwyd her ‘O Amgylch y Byd Mewn 80 Diwrnod’, her lles/ffitrwydd i staff TGC a’u teuluoedd sy’n anelu at gerdded/beicio/rhedeg cyn belled ag y gallant o gwmpas y byd mewn 80 diwrnod, targed o 24,901 milltir erbyn yr 16eg o Ionawr.

Eglurodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol:

“Wrth ddewis yr her roeddem am gyflawni dau beth. Roeddem am helpu iechyd a lles staff ac yn ail, roeddem am godi arian i elusen. Roeddem o’r farn bod hwn yn syniad perffaith. Yn ogystal â chymryd rhan bydd staff hefyd yn casglu arian nawdd a fydd yn mynd at elusen eleni, Awyr Las. ”

Mae staff TGC, teulu a ffrindiau wedi teithio 7,500 milltir hyd yma, mynd allan ym mhob tywydd yn ogystal â thramwyo ar y felin draed. Gyda llwybr wedi’i gynllunio sy’n mynd â nhw ar daith ar draws y byd, ar hyn o bryd maen nhw wedi cyrraedd China.

Dywed Emma:

“Mae wedi mynd yn dda iawn hyd yma, mae cymaint o bobl wedi cymryd rhan. Rydyn ni’n gweld staff yn mynd ar deithiau cerdded a reidiau beic gyda’u teuluoedd a’u hanifeiliaid anwes. Rydyn ni’n gweld golygfeydd hyfryd o ogledd Cymru, ac mae rhai yn rhannu’r ystyr hanesyddol y tu ôl i’w teithiau cerdded sy’n braf.”

Gallwch ddilyn eu taith ar Facebook, Twitter neu ewch i’w gwefan lle byddant yn postio’r newyddion diweddaraf am yr her.